Yn dilyn siom canlyniad y tîm cenedlaethol brynhawn Sadwrn, roedd rhywbeth i godi calonnau cefnogwyr rygbi Cymru brynhawn Sul wrth i ddau allan o dri rhanbarth ennill yn y Cwpan LV.
Roedd buddugoliaethau cyfforddus i’r Scarlets a’r Dreigiau yn erbyn Caerlŷr a Chymry Llundain, ond methodd y Gweilch ei gwneud hi’n dair allan o dair wrth iddynt golli gêm agos yn erbyn Harlequins.
Scarlets 40-19 Caerlŷr
Sgoriodd y Scarlets dri chais yn y deg munud olaf a throsodd Owen Williams saith cic gosb wrth i Fois y Sosban drechu Caerlŷr yn gyfforddus ar Barc y Scarlets.
Y Teigrod oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ac roeddynt ar y blaen ar yr egwyl diolch i geisiau Thomas “Y Tanc” Waldrom ac Andy Forsyth ynghyd â chais cosb. Llwyddodd Matt Cornwell gyda dau drosiad hefyd ond cadwodd Williams y Scarlets yn y gêm gyda phum cic gosb yn y deugain munud agoriadol.
Dim ond y tîm cartref oedd ynddi wedi’r egwyl. Ychwanegodd Williams ddwy gic gosb arall cyn i’r Scarlets sicrhau’r fuddugoliaeth gyda thri chais hwyr.
Sgoriodd yr Andy Fenby ddeg munud o’r diwedd cyn i Gareth Owen ychwanegu ail saith munud yn ddiweddarach. Yna, coronodd Nic Reynolds y perfformiad gyda’r trydydd cais yn yr eiliadau olaf.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Scarlets i’r trydydd safle yng ngrŵp 3.
.
Cymry Llundain 14-42 Dreigiau
Patrwm tebyg iawn i’r gêm uchod oedd i fuddugoliaeth swmpus y Dreigiau dros Gymry Llundain yn Stadiwm Kasaam hefyd – cicio cywir Steffan Jones yn cadw’r Cymry yn y gêm yn gynnar ac yna tri chais hwyr i’w hennill hi.
Tri phwynt oedd ynddi ar yr egwyl yn dilyn tair cic gosb Ryan Davis i Gymry Llundain a dwy ymdrech Jones i’r Dreigiau.
Ychwanegodd y maswr bum cic gosb arall yn yr ail hanner ond roedd y tîm cartref ynddi o hyd gyda deg munud i fynd diolch i gais Ed Williamson.
Ond agorodd y llifddorau yn y deg munud olaf wrth i Hallam Amos, Ieuan Jones a Jevon Groves i gyd groesi’r llinell gais i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i’r Dreigiau. Trosodd Jones y tri chais gan orffen y gêm gyda chyfanswm personol o 27 pwynt.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Dreigiau i’r trydydd safle yng ngrŵp 1.
.
Gweilch 12-16 Harlequins
Doedd pedair cic gosb Matthew Morgan ddim yn ddigon i’w gwneud hi’n dair buddugoliaeth allan o dair i ranbarthau Cymru yn erbyn Harlequins yn Stadiwm Liberty wrth i’r Saeson ennill gêm agos.
Roedd Harlequins ddeg pwynt ar y blaen wedi hanner awr o chwarae diolch i gais Matt Hooper ac wyth pwynt o droed Ben Botica.
Un gic gosb gan Morgan oedd unig ymateb y Gweilch yn y cyfnod hwnnw ond roedd y bwlch i lawr i bedwar pwynt erbyn yr egwyl diolch i chwe phwynt arall gan y maswr bach.
Caeodd Morgan y bwlch ym mhellach gyda’i bedwaredd gic lwyddiannus yn yr ail hanner ond sicrhaodd Botica’r fuddugoliaeth gyda chic gosb i’r ymwelwyr yn yr eiliadau olaf.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch yn y trydydd safle yng ngrŵp 4.