Sexton
Mae Dan Biggar wedi dweud y bydd Cymru yn anghofio am eu colledion dros yr hydref pan maent yn croesawu Iwerddon i Stadiwm y Mileniwm yfory.

Cafodd Biggar ei ddewis i ddechrau yfory yn dilyn anaf i Rhys Priestland, ac mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen at frwydr gyda’i wrthwynebwr Gwyddelig, y maswr Jonathan Sexton.

“Gallai eistedd yma drwy’r dydd a sôn am ddoniau Jonathan Sexton,” meddai Biggar, 23. “Ond rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ei wynebu yfory.  Rydw i wedi chwarae yn ei erbyn sawl gwaith, ac mae o’n chwarae’n hynod o dda ar hyn o bryd. Mae’n her a braint cael chwarae yn ei erbyn pan mae’n chwarae mor dda a hyn.”

Ond mae Biggar, sydd ei hun wedi perfformio yn dda i’r Gweilch yn ddiweddar, yn credu bod gan dîm Cymru y chwaraewyr i guro’r Gwyddelod.

“Mae Jonathan yn chwaraewr gwych, ac mae ganddo chwaraewyr gwych o’i amgylch, sydd yn bleser i faswr.  Mae’n gwneud y gêm gymaint haws pan mae canolwyr fel Gordon D’Arcy a Brian O’Driscoll yn chwarae hefyd,” meddai Biggar.

“Ond mae ganddon ni gefnwyr da hefyd, gyda Jamie Roberts a Jonathan Davies. Mae nhw’n chwaraewyr o safon uchel hefyd. Bydd hi’n gyffrous.”

Er i Biggar gydnabod bod Cymru wedi chwarae yn sâl yng ngemau’r Hydref, dywedodd bod brwdfrydedd newydd o fewn y garfan erbyn hyn.

“Mae hwn yn gystadleuaeth newydd gyda strategaethau newydd i’r tîm, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr.

“Mae’n rhaid i ni wneud y pethau syml yn dda, dyna sy’n bwysig mewn rygbi rhyngwladol.  Rhaid sicrhau pob lein a scrym, a hefyd sicrhau bod ein cicio ac amddiffyn mewn trefn.

“Os fedrwn ni sicrhau y pethau yna, mae siawns dda o ennill gemau rygbi.”

Mae Cymru yn chwarae Iwerddon am 1.30yh, yfory yn Stadiwm y Mileniwm.