Dan Biggar
Fe fydd dau chwaraewr, yn arbennig, yn gobeithio gwneud eu marc tros Gymru yn erbyn Iwerddon fory.

Fe fydd clo’r Dreigiau, Andrew Coombs, yn cael ei gap cynta’ a’r maswr, Dan Biggar, yn cael ei gyfle yn y crys rhif 10.

Anafiadau sy’n gyfrifol am y ddau benderfyniad, gyda nifer o chwaraewyr ail reng Cymru wedi brifo a’r maswr arferol, Rhys Priestland, allan am fisoedd.

Y tîm nid fi, meddai Biggar

Er fod Biggar wedi bod yn aros yn hir i gael ei ddewis, mae’n dweud fod y gêm yn bwysicach i’r tîm nag iddo ef ei hun, yn dilyn canlyniadau gwael yng ngêmau’r hydref.

“Mae’n gêm enfawr i fi, ond bosib yn gêm fwy i’r tîm,” meddai. “Mae’n bwysig ein bod ni’n mynd yn ôl i ddechrau ennill ac hefyd i ddechrau’r ymgyrch yn gryf.

“Does dim dadl ein bod wedi cael hydref gwael fel tîm, ond mae’n ddechrau newydd a r’yn ni’n edrych ymlaen at geisio cipio’r tlws unwaith eto.”

Mae’n dweud ei fod hefyd yn edrych ymlaen at wynebu maswr Leinster, Jonathan Sexton, sef y ffefryn i wisgo’r crys rhif 10 dros y Llewod yn yr haf.

“Dw i wedi chwarae yn ei erbyn nifer o weithiau i Leinster ac mae ar dop ei gêm ar y foment. Mae’n sialens ac yn fraint cael chwarae yn ei erbyn ac yntau’n chwarae mor dda.”

Cicio – os bydd rhaid

Mae’r prif hyfforddwr, Rob Howley, wedi cyhoeddi mai’r cefnwr Leigh Halfpenny fydd yn cicio at y pyst, er gwaethaf ymddangosiad  Biggar. Ond mae Biggar yn fwy na pharod i wneud hynny os bydd rhaid.

“Mewn un ffordd mae’n tynnu’r pwysau bant er mwyn canolbwyntio ar reoli’r gem, ond ar y llaw arall mae cicio yn rhywbeth dw i wedi arfer ei wneud.

“Ond mae Leigh yn giciwr sydd wedi profi ei hun dros y 12 mis diwethaf. Does dim problem gyda’r sefyllfa, fydda’ i’n hapus i gario ymlaen gyda fy ngêm fy hun a chymryd y cyfrifoldeb cicio pe bai angen.”

Gwneud y gorau o’r cyfle – Coombs

Roedd hi’n ddipyn o sioc yng Nghymru pan gafodd Andrew Coombs ei enwi i ddechrau’r gêm yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn. Ond mae’n dweud ei fod yn benderfynol o wneud y gorau o’r cyfle.

Cafodd y clo o Ffos y Gerddinen – Nelson – ei alw i’r garfan oherwydd anafiadau i chwaraewyr fel Alun Wyn Jones, Luke Charteris a Ryan Jones.

“Mae’n gyfle enfawr i fi, ac yn un dw i’n edrych ymlaen ato. Roedd hi’n dipyn o sioc i mi gael fy ngalw lan [i’r garfan] ac ers hynny fi wedi bod yn ymarfer yn galed ac yn amlwg wedi gwneud digon i blesio’r hyfforddwyr i wneud y tim ar gyfer dydd Sadwrn.”

Mae Coombs wedi chwarae dros Gasnewydd a’r Dreigiau, ac wedi llwyddo i greu argraff, er gwaethaf perfformiadau siomedig y rhanbarth y tymor hwn. Mae’n cyfadde’i fod wedi meddwl yn y gorffennol ei bod yn rhy hwyr

“Roeddwn i’n gwybod ei bod hi yn mynd ychydig yn hwyr ac, i fi, dyma’r cyfle olaf. Dw i’n mo’yn aros yn y garfan am ychydig flynyddoedd ac felly mae hi lan i fi i berfformio’n dda.”

Y stori: Owain Gruffydd