Nos yfory fe fydd y Dreigiau yn croesawu’r Gweilch i Rodney Parade yng nghystadleuaeth y Cwpan LV.

Ar hyn o bryd mae’r Dreigiau ar waelod grŵp A a’r Gweilch yn y drydedd safle yng ngrŵp D.

Fe fydd y mewnwr Rhys Downes, sydd ar fenthyg o glwb rygbi Casnewydd yn eilydd ac yn ymuno â Aaron Coundley a Pat Leach ar y fainc.  Yn ogystal fe fydd Matthew Pewtner yn gwneud ei dechreuad gyntaf y tymor hwn.

Yn nhîm y Gweilch fe fydd Jamie Murphy, Dafydd Howells a Daniel Suter yn dechrau am y tro cyntaf i’r rhanbarth.

Tîm y Dreigiau

Olwyr – Hallam Amos, Matthew Pewtner, Adam Hughes, Jack Dixon, Mike Poole, Steffan Jones a Jonathan Evans

Blaenwyr – Nathan Williams, Sam Parry, Dan Way, Adam Jones, Rob Sidoli, Lewis Evans (Capten) Nic Cudd a Ieuan Jones

Eilyddion – Hugh Gustafson, Aaron Coundley, Tim Ryan, Ian Nimmo, Jevon Groves, Rhys Downes, Dan Evans, Pat Leach.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Jamie Murphy, Tom Grabham, Jonathan Spratt, Ben John, Dafydd Howells, Matthew Morgan a Rhys Webb (Capten)

Blaenwyr – Marc Thomas, Matthew Dwyer, Daniel Suter, Sam Williams, Rhodri Hughes, Jonathan Thomas, Arthur Ellis a Morgan Allen

Eilyddion – Dmitri Arhip, Nicky Smith, Campbell Johnstone, Dan Baker, Rob Dudley-Jones, Tom Habberfield, Sam Davies a Nathan Edwards.