Mae mewnwr tîm rygbi dan 20 Cymru, Rhodri Williams yn credu y gall y cefnogwyr ym Mharc Eirias fod yn hanfodol i lwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Bydd y tîm yn chwarae eu gemau cartref ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, wedi iddyn nhw dderbyn cefnogaeth gref yno’r llynedd, ac mae mewnwr y Scarlets a Llanymddyfri yn credu gall dychwelyd i’r gogledd fod yn hollbwysig.
“Llynedd, doedden ni ddim yn siŵr am fynd i’r gogledd i chwarae. Yn amlwg mae’n bell i deithio ond roedd y gefnogaeth yn wych. Roedd y cyfleusterau, yr ystafelloedd newid, y cae a’r awyrgylch yn ddigon i roi hwb i’r tîm,” meddai Williams.
Bydd y bencampwriaeth yn dechrau gydag ymweliad y Gwyddelod i Fae Colwyn ar 1 Chwefror.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gêm gartref yn erbyn Iwerddon. Fe gawson ni gefnogaeth ardderchog ym Mae Colwyn llynedd a hoffwn ni wneud Parc Eirias yn gastell i’r tîm,” meddai.
Ers gorffen yn bedwerydd yn y bencampwriaeth y llynedd, aeth Cymru i gyrraedd y drydedd safle ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd, y safle uchaf erioed i dîm o Gymru, ac mae Rhodri Williams yn awyddus i gario momentwm o’r llwyddiant yma.
“Rhaid i ni wella ar lwyddiant y garfan yn Ne Affrica. Byddwn ni’n rhoi ein holl ymdrech i mewn i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad wrth adeiladu tuag at Gwpan y Byd nesaf hefyd.”
“Ein cefnwyr ni yw’r goreuon yn yr oedran yma. Mae lefel ein sgiliau yn uchel ac os fedrwn ni berfformio yn dda yn y blaenwyr, gallwn ni herio unrhyw dîm yn y byd.”
Bydd Cymru dan 20 yn chwarae Iwerddon ym Mharc Eirias ar 1 Chwefror, am 7.10yh.