Geraint Thomas
Roedd gorffen yn y bedwerydd safle yng nghymal diweddaraf y Tour Down Under yn ddigon i Geraint Thomas aros ar flaen y ras, gyda thri chymal arall i’w cyflawni.

Ar y cymal hir o 139km o Unley i Stirling, roedd Thomas a thîm Sky yng nghanol y pac, nes i’r grŵp wahanu wedi 90km.  Daeth y pac yn ôl at ei gilydd gydag ond 5km i fynd, a phan benderfynodd Tom-Jelte Slagter i ddechrau ei sbrint tua’r llinell, nid oedd unrhyw un yn gallu ei ddal.

Slagter, o’r Iseldiroedd, oedd yn fuddugol, gyda Matt Goss a Philippe Gilbert y tu ôl iddo.  Daeth Geraint Thomas i mewn yn bedwerydd, sy’n ddigon iddo ddal ei afael ar y jersi felen am ddiwrnod arall.

Wedi’r cymal, roedd Thomas llawn canmoliaeth am aelodau eraill ei dîm.

“Roedd y bois yn gryf ac mewn rheolaeth drwy’r cymal, ond fe gawsom ni ein profi heddiw, yn bendant,” meddai Thomas.

Bydd y cymal nesaf yn dechrau ddydd Gwener, gyda’r ras yn symud 126.5km o Modbury i Tanunda.