Mae rheolwr tîm rygbi dan-20 Cymru, Danny Wilson wedi enwi ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae’r garfan yn cynnwys 10 o chwaraewyr a fu’n rhan o’r tîm y llynedd, ac mae gobaith y bydd Gareth Thomas, Jordan Williams a Sam Davies yn gwella o anafiadau i ymuno a’r sgwad yn ystod y Bencampwriaeth.

Bydd y Bencampwriaeth yn dechrau ar ddydd Gwener, 1 Chwefror, pan fydd Cymru yn croesawu Iwerddon yn ôl i Barc Eirias ym Mae Colwyn, wedi iddyn nhw dderbyn cefnogaeth gref yno’r llynedd.

“Mae grŵp cryf o chwaraewyr i ni ddewis ohonynt – mae Ieuan Jones a Rhys Patchell wedi serennu i’w rhanbarthau yn ddiweddar, ac mae Harry Robinson wedi chwarae i dîm cyntaf Cymru wrth gwrs,” meddai’r hyfforddwr, Wilson.

“Hefyd, os gall chwaraewyr fel Sam Davies, Jordan Williams a Gareth Thomas wella o’i anafiadau, bydd ganddon ni gryfder drwy’r sgwad.”

Mae Wilson hefyd yn credu y gall chwarae yn ôl ym Mharc Eirias roi hwb i’w dîm.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Eirias.  Fe gawsom ni gefnogaeth wych yno’r tymor diwethaf, ac os caiff hynny ei ail-adrodd, buasai’n rhoi hwb enfawr i’r chwaraewyr, yn enwedig yn ein gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon,” meddai.

Blaenwyr: Ellis Jenkins (capt, Gleision / Caerdydd), Nicky Smith (Gweilch / Abertawe), *Dan Suter (Gweilch / Pen y Bont), *Nicky Thomas (Gweilch / Abertawe), Bradley Thyer (Pontypridd), Ethan Lewis (Gleision / Caerdydd), Elliot Dee (Bedwas), Carwyn Jones (Scarlets / Caerfyrddin), Jack Jones (Gweilch / Rovigo), Rhodri Hughes (Gweilch / Abertawe), Ieuan Jones (Dreigiau / Casnewydd), Daniel Thomas (Scarlets / Llanelli), Sion Bennett (Scarlets / Caerfyrddin), James Benjamin (Bedwas)

Cefnwyr: Rhodri Williams (Scarlets / Llanymddyfri), Joshua Davies (Dreigiau / Bedwas), Rhys Patchell (Gleision / Caerdydd), Ethan Davies (Bedwas), *Cory Allen (Gleision / Caerdydd), Steffan Hughes (Scarlets / Llanelli), Jack Dixon (Dreigiau/ Bedwas), Thomas Pascoe (Gleision / Pontypridd), Ashton Hewitt (Dreigiau / Casnewydd), Dion Jones (Scarlets / Llanelli), Harry Robinson  (Gleision / Caerdydd), Ashley Evans (Gweilch / Pen y Bont), Hallam Amos (Dreigiau / Bedwas)