Arsenal 1–0 Abertawe

Mae Abertawe allan o Gwpan yr FA ar ôl colli yn erbyn Arsenal yn y gêm drydedd rownd yn yr Emirates nos Fercher.

Roedd rhaid ail chwarae’r gêm yn Llundain wedi iddi orffen yn gyfartal ar y Liberty wythnos a hanner yn ôl. Cafwyd digon o goliau yn y gêm honno ond roedd un yn ddigon i ennill hon wrth i Jack Wilshere sicrhau lle Arsenal yn y rownd nesaf gyda gôl bedwar munud o’r diwedd.

Un o gyn chwaraewyr Arsenal a ddaeth agosaf at sgorio i Abertawe ond tarodd peniad Kyle Bartley yn erbyn y postyn.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r cyfleoedd ar y cyfan a gwnaeth gôl-geidwad yr Elyrch, Michel Vorm, yn dda iawn i gadw ei dîm ynddi am ran fwyaf o’r gêm.

Ond fe ddaeth y gôl haeddianol i Arsenal bedwar munud o’r diwedd pan gurodd Wilshere Vorm gydag ergyd dda o ochr y cwrt cosbi.

Siom i Abertawe yng Nghwpan yr FA felly ond gêm bwysicach o’u blaenau yng Nghwpan y Gynghrair wythnos nesaf, wrth iddynt groesawu Chelsea i’r Liberty ar gyfer ail gymal rownd gynderfynol y gystadleuaeth honno.

.

Arsenal

Tîm: Szczesny, Sagna, Mertesacker, Vermaelen, Gibbs, Diaby (Ramsey 82’), Wilshere, Walcott, Cazorla, Coquelin, Giroud

Gôl: Wilshere 86’

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Bartley, Chico, Tiendalli, Britton, Dyer, Routledge, De Guzman (Ki Sung-Yeung 60′), Agustien (Pablo 59′), Richards, Graham (Michu 71′)

.

Torf: 58,359