Gweilch 16–15 Zebre

Bu bron i’r Gweilch gael sioc yn Stadiwm Liberty nos Wener wrth i’w hymwelwyr yn y RaboDirect Pro12, Zebre, ddod yn agos iawn at ennill y gêm.

Er bod y tîm o’r Eidal ar waelod y gynghrair heb yr un fuddugoliaeth roeddynt ar y blaen am gyfnodau hir o’r gêm yn Abertawe. Ond er mai cael a chael oedd hi, roedd pwyntiau Dan Biggar yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r Cymry yn y diwedd.

Rhoddodd mewnwr yr ymwelwyr, Alberto Chillon, fantais gynnar i’w dîm gyda chic gosb cyn i Biggar unioni pethau hanner ffordd trwy’r hanner.

Adferodd Zebre y fantais yn fuan wedyn gyda Chillion yn sgorio eto, ond yn croesi am gais y tro hwn. Ac er i Biggar drosi cic gosb arall cyn yr egwyl, yr ymwelwyr oedd ar y blaen o 8-6.

Bu rhaid i’r Eidalwyr chwarae gyda phedwar dyn ar ddeg am gyfnod ar ddechrau’r ail hanner yn dilyn cerdyn melyn i’r wythwr, Andries van Schalkwyk, ar ddiwedd yr hanner cyntaf ond methu manteisio a wnaeth y Gweilch gyda Biggar yn wastraffus gyda chynnig at y pyst.

Methodd Daniel Halangahu gyda chynnig i’r Eidalwyr hefyd cyn i Biggar roi’r Gweilch ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda thri phwynt chwarter awr o’r diwedd.

Ymestynnodd y maswr y fantais yn fuan wedyn gyda chais a throsiad ond bu rhaid i gefnogwyr y Gweilch ddioddef diweddglo agos wedi i’r eilydd fewnwr, Tito Tebaldi, daro’n ôl gydag ail gais Zebre.

Ond daliodd amddiffyn y Gweilch eu gafael a bu rhaid i’r Eidalwyr fodloni ar bwynt bonws yn unig. Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch dros y Scarlets, i’r trydydd safle yn nhabl y Pro12.

.

Gweilch

Cais: Dan Biggar 69’

Trosiad: Dan Biggar 69’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 22’, 34’, 66’

.

Zebre

Ceisiau: Alberto Chillon 28’, Tito Tebaldi 72’

Trosiad: Daniel Halangahu 72’

Cic Gosb: Alberto Chillon 12’

Cerdyn Melyn: Andries van Schalkwyk 39’