Ulster 47–15 Scarlets


Colli fu hanes y Scarlets yn erbyn Ulster yn y RaboDirect Pro12 nos Wener er gwaethaf ymdrech ddewr yn Ravenhill.

Dim ond chwe phwynt oedd ynddi ar yr egwyl yn dilyn hanner cyntaf da gan y Cymry ond y tîm cartref a gafodd y gorau o ail hanner llawn ceisiau wrth gipio buddugoliaeth a phwynt bonws yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Fe ddechreuodd y Scarlets yn addawol iawn ac roeddynt yn llawn haeddu bod ar y blaen wedi chwarter cyntaf y gêm diolch i gic gosb gynnar Aled Thomas. A dylai’r fantais honno fod wedi bod yn chwe phwynt hefyd ond methodd y maswr ail gynnig cymharol hawdd.

Unionodd Ruan Pienaar y sgôr gyda chic gosb wedi i’r Scarlets ddymchwel sgrym ac roedd y ddau dîm yn ceisio mynd amdani ac yn chwarae rygbi agored wrth i’r hanner dynnu at ei derfyn.

Ond ni chafwyd cais cyn yr egwyl er gwaethaf yr holl redeg ond fe wnaeth Pienaar ychwanegu chwe phwynt arall cyn hanner amser diolch i ddwy gic gosb braidd yn hallt yn erbyn y Scarlets, y naill am drosedd yn ardal y dacl a’r llall am gega.

Ail Hanner

Roedd ambell i awgrym ar ddiwedd yr hanner cyntaf fod y Gwyddelod yn dechrau newid gêr ac fe wnaethant hynny yn sicr ar ddechrau’r ail hanner gyda dau gais yn y chwarter awr cyntaf.

Daeth y cyntaf wedi dim ond pedwar munud, patrymau del gan yr olwyr i ddechrau ac yna’r blaenwyr yn gorffen y symudiad, Nick Williams i Rob Herring i Robbie Diak a’r blaenasgellwr yn croesi o dan y pyst.

Williams ei hun groesodd am yr ail, yn hyrddio drosodd ar ôl cymryd cic gosb gyflym bum medr o’r llinell gais. Trosodd Pienaar y ddau gais ac ychwanegodd gic gosb arall rhwng y ddau i roi tri phwynt ar hugain o fantais i’r tîm cartref gyda chwarter y gêm i fynd.

Roedd perygl iddi fynd yn dipyn o chwalfa i’r Scarlets wedi hynny, ond Bois y Sosban, er mawr glod iddynt, a gafodd y cais nesaf. Pwysodd y Cymry am gyfnod hir yn nau ar hugain Ulster cyn i’r bwlch agor i Josh Turnbull a chroesodd y blaenasgellwr.

Llygedyn o obaith am bwynt bonws o leiaf felly ond diflannodd hwnnw’n ddigon buan wrth i’r tîm cartref orffen y gêm gyda thri chais yn y deg munud olaf.

Tiriodd Andrew Trimble yn dilyn onglau da gan yr olwyr, dyfarnodd Leyton Hodges gais cosb dadleuol iawn a chroesodd Neil McComb yn dilyn ymdrech gref gan y blaenwyr.

Roedd digon o amser ar ôl i Scott Williams sgorio cais cysur taclus iawn i’r Scarlets ond doedd dim dwywaith fod Ulster yn llwyr haeddu’r fuddugoliaeth gyda pherfformiad a ddangosodd pam mai nhw sydd ar frig y Pro12.

Ymateb

Canolwr y Scarlets a Chymru, Jonathan Davies:

“Roedd Ulster yn dda iawn heno, yn rhoi pwysau arnom ac yn troi hwnnw’n bwyntiau. Roedd hi’n anodd iawn ond doedd dim prinder ymdrech gan y bois felly rhaid i ni gadw ein pennau i fyny cyn yr wythnos nesaf.”

Mae’r canlyniad yn achosi i’r Scarlets ddisgyn o’r pedwar uchaf yn nhabl y Pro12 am y tro cyntaf ers dechrau’r tymor, maent bellach yn bumed.

.

Ulster

Ceisiau: Robbie Diak 44’, Nick Williams 56’, Andrew Trimble 73’, Cais Cosb 76’, Neil McComb 77’

Trosiadau: Ruan Pienaar 44’, 57’, Paddy Jackson 73’, 76’ 78’

Ciciau Cosb: Ruan Pienaar 22’, 33’, 37’, 48’

.

Scarlets

Ceisiau: Josh Turnbull 68’, Scott Williams 80’

Trosiad: Aled Thomas 69’

Cic Gosb: Aled Thomas 8’

Cerdyn Melyn: Aled Thomas 76’