Mae blaenwr Cymru Ryan Jones wedi derbyn blwyddyn dysteb gan ranbarth y Gweilch i gydnabod ei gyfraniad i fyd rygbi.

Mae’r chwaraewr 31 oed wedi ennill 70 o gapiau dros ei wlad a fe oedd y capten pan enillodd Cymru’r Gamp Lawn yn 2008.

Bydd yn lawnsio’i flwyddyn dysteb nos Wener yma pan fydd y Gweilch yn chwarae Zebre yn y Liberty, ac ar Ionawr 31 bydd yn cynnal cinio ym Mharc yr Arfau cyn i bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddechrau’r penwythnos wedyn.

Mae wedi dewis Apêl Affganistan y Gwarchodlu Cymreig fel elusen swyddogol ei flwyddyn dysteb, a dywedodd pennaeth y Gweilch, Andrew Hore, fod “Ryan yn was rhagorol i’r Gweilch ac i’w wlad, ac i rygbi yn gyffredinol.”

Ym mis Tachwedd llwyddodd Ryan Jones i dorri record Ieuan Evans am fod yn gapten ar Gymru y mwyaf o weithiau – mae wedi arwain Cymru mewn 29 gêm.

Mae wedi cynrychioli’r Gweilch 135 o weithiau, ac wedi ennill y gynghrair gyda nhw bedair gwaith.