Mae ceisiadau gan Eli Walker ac Ashley Beck wedi sicrhau buddugoliaeth i’r Gweilch yn Rodney Parade, gan guro’r Dreigiau 14-3.
Llwyddodd yr asgellwr Eli Walker i sgorio’r cais cyntaf ar ôl dim ond tair munud.
Ashley Beck sgoriodd ail gais y Gweilch yn hwyr yn y gêm, diolch i faswr y Gweilch, Dan Biggar, a darodd y bêl i’r llawr wrth i Lewis Robling geisio cicio o flaen ei byst ei hun.
Tom Prydie fu’n gyfrifol am bwyntiau’r tîm cartref.
Mae’r canlyniad yn golygu bod y Gweilch yn codi o chweched i’r pumed safle yn y Pro12.
Dreigiau: Hallam Amos; Will Harries, Pat Leach, Andy Tuilagi, Tom Prydie; Lewis Robling, Jonathan Evans; Phil Price, Sam Parry, Dan Way, Andrew Coombs, Rob Sidoli, Lewis Evans (capt), Toby Faletau, Nic Cudd.
Eilyddion: Hugh Gustafson, Owen Evans, Nathan Buck, Adam Jones, Tom Brown, Wayne Evans, Steffan Jones, Jack Dixon.
Gweilch: Richard Fussell; Ross Jones, Tom Isaacs, Andrew Bishop, Eli Walker; Dan Biggar, Kahn Fotuali’i (capt); Ryan Bevington, Richard Hibbard, Adam Jones, Lloyd Peers, James King, Ryan Jones, Joe Bearman, Sam Lewis.
Eilyddion: Scott Baldwin, Duncan Jones, Cai Griffiths, Jonathan Thomas, Morgan Allen, Tom Habberfield, Matthew Morgan, Ashley Beck.