Port Talbot 6–1 Lido Afan

Cafwyd dipyn o gêm o flaen camerâu Sgorio yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn wrth i Bort Talbot guro’i cymdogion, Lido Afan, yn gyfforddus.

Fe sgoriodd Port Talbot chwe gôl a bu rhaid i Lido chwarae hanner awr a mwy gyda naw dyn mewn gêm danllyd a chyffrous.

Hanner Cyntaf

Aeth Port Talbot ar y blaen wedi dim ond naw munud yn dilyn llanast yn y cefn gan Lido. Cafodd yr amddiffyn ei guro yn rhy rhwydd o lawer gan bêl hir cyn i ergyd Lewis Harling wyro oddi ar Callan Bowden a heibio Chris Curtis wrth ei bostyn agosaf.

Unionodd Lido yn fuan wedyn gyda gôl flerach fyth. Tarodd ymdrech Anthony Rawlings yn erbyn y postyn cyn gwyro oddi ar law amddiffynnwr i gyfeiriad y gôl, a gwnaeth Mark Jones yn siŵr ei bod yn croesi’r llinell.

Ond roedd y Gwŷr Dur yn ôl ar y blaen wedi llai na hanner awr diolch i David Brooks. Holltodd amddiffyn yr ymwelwyr fel y môr coch unwaith eto wrth i Daniel Sheehan benio’r bêl i lwybr Brooks a gorffennodd yntau’n gelfydd gydag ergyd i’r gornel isaf.

Dylai Jeff White fod wedi ei gwneud hi’n dair cyn yr egwyl ond saethodd dros y trawst o bedair llath.

Ail Hanner

Dim ond gôl ynddi ar yr egwyl felly ond roedd hi fwy neu lai ar ben wedi deg munud o’r ail gyfnod yn dilyn cerdyn coch i Lido a thrydedd gôl i Bort Talbot. Derbyniodd Paul Evans goch am lorio White fel y dyn olaf a chrymanodd Brooks y gic rydd ganlynol yn berffaith i’r gornel uchaf.

Roedd Lido lawr i naw dyn yn fuan wedyn yn dilyn cerdyn coch braidd yn llym i Rowlings am gydio yn Brooks ac ychwanegodd Carl Payne bedwaredd y tîm cartref hanner ffordd trwy’r hanner wrth orffen symudiad taclus gydag ergyd nerthol o ochr y cwrt cosbi.

Dylai Lido fod wedi cael cic o’r smotyn wedi hynny ond go brin y byddai hynny wedi effeithio llawer ar y canlyniad.

Cafodd White ei anfon o’r cae i Bort Talbot hefyd cyn y diwedd ond wnaeth hynny ddim atal dau amddiffynnwr canol y tîm cartref rhag ychwanegu dwy gôl arall yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm. Gwyrodd ergyd Ryan Green i gefn y rhwyd oddi ar amddiffynnwr i ddechrau cyn i Lee de-Vulgt blymio i sgorio peniad gwych o groesiad Sacha Walters.

Hunllef o brynhawn i Lido felly ond diweddglo da i’r flwyddyn i Bort Talbot.

Ymateb

Scott Young, rheolwr Port Talbot:

“Fel rheolwr sydd newydd ennill gêm ddarbi o chwech i un rhaid i mi fod yn hapus.”

“Fe ddywedais wrth y chwaraewyr cyn y Nadolig y byddai’n bwysig i ni gymryd chwe phwynt o’r ddwy gêm yma i’n cadw yn y chwech uchaf. Nawr, mae gennym gêm bwysig yn erbyn y Bala’r wythnos nesaf ac fe gawn weld lle yr ydym ni ar ôl honno.”

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Port Talbot i’r pumed safle yn y tabl ac mae hi’n edrych yn addawol arnynt i orffen yn y chwech uchaf. Mae Lido Afan ar y llaw arall yn aros ar waelod y tabl.

.

Port Talbot

Tîm: Richards, Sheehan (Parry 82’), de-Vulgt, Green, Crowell (Wright 72’), Payne, John, Harling, Brooks (Walters 72’), White, Thomas

Goliau: Harling 9’, Brooks 26’, 55’, Payne 68’, Green 90’, de-Vulgt 90’

Cardiau Melyn: White 15’, 80’, Crowell 61’, Green 66’, Brooks 67’, Payne 90’

Cerdyn Coch: White 80’

.

Lido Afan

Tîm: Curtis, Hudson, Evans, Hartshorn, Hartland (Borelli 70’), Jones , Rawlings, Howard, Phillips (Thompson 70’), Gammond, Bowden (Jeffries 78’)

Gôl: Jones 17’

Cardiau Melyn: Phillips 30’, Howard 57’, Borelli 84’, Hartshorn 90’

Cardiau Coch: Evans 54’, Rawlings 61’

.

Torf: 260