Wrecsam 2–2 Tamworth
Gêm gyfartal a gafodd Wrecsam yn erbyn Tamworth yn Uwch Gynghrair y Blue Square brynhawn Sadwrn er i’r tîm cartref fynd ar y blaen ddwywaith ar y Cae Ras.
Rhoddodd Brett Ormerod y Dreigiau ar y blaen cyn i Connor Gudger unioni yn yr hanner cyntaf. Ac er i Dean Keates dderbyn cerdyn coch yn gynnar yn yr ail gyfnod, Wrecsam a aeth ar y blaen diolch i Danny Wright. Ond yna sgoriodd Scott Barrow bum munud o’r diwedd i gipio pwynt i’r ymwelwyr.
Dechreuodd Wrecsam yn dda ac roeddynt ar y blaen wedi 26 munud diolch i drydedd gôl Ormerod mewn pedwar diwrnod. Tarodd ergyd Keates yn erbyn y postyn cyn disgyn i Wright ac yna Ormerod a gwnaeth yntau’r gweddill.
Ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal dri munud yn ddiweddarach pan groesodd cyn chwaraewr Lloegr, Lee Hendrie, i gyfeiriad Connor Gudger yn y canol cyn i’r blaenwr benio heibio i Joslain Mayebi.
Cyfartal ar yr egwyl felly a bu rhaid i Wrecsam chwarae’r rhan fwyaf o’r ail hanner gyda deg dyn wedi i Keates dderbyn ail gerdyn melyn am drosedd ar Peter Till.
Y tîm cartref serch hynny a sgoriodd y gôl nesaf wrth i Wright rwydo chwarter awr o’r diwedd yn dilyn gwaith creu Ormerod.
Ond methodd y deg dyn a dal eu gafael ac unionodd Barrow gyda chic rydd wych o bellter bum munud o ddiwedd y naw deg.
Mae Wrecsam yn aros yn y trydydd safle yn nhabl y Blue Square er gwaethaf y gêm gyfartal ond wedi colli cyfle i godi i’r ail safle gan i gêm Casnewydd yn Henffordd gael ei gohirio.
.
Wrecsam
Tîm: Mayebi, Ashton, Alfei, Riley, Westwood, Harris, Keates, Clarke, Wright, Ormerod (Walker 77’), Rushton (Hunt 57’)
Goliau: Ormerod 26’, Wright 74’
Cerdyn Melyn: Keates 28’
Cerdyn Coch: Keates 53’
.
Tamworth
Tîm: Tait, Regan, Courtney, Gudger (Cunnington 70’), Kelly, Baldock (Marshall 88’), Hendrie, Breedon, Till (Moke 55’), Barrow, Wright
Goliau: Gudger 29’, Barrow 85’
Cardiau Melyn: Wright 2’, Gudger 19’, Regan 86’, Cunnington 89’
.
Torf: 3,703