Caerdydd 1–0 Millwall
Roedd gôl gynnar y Ffrancwr ifanc, Rudy Gestede, yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Er i Millwall chwarae’n well na Chaerdydd am rannau helaeth o’r gêm, mae’r Adar Gleision yn aros bum pwynt yn glir ar frig y Bencampwriaeth diolch i’r fuddugoliaeth o gôl i ddim.
Dechreuodd Gestede y gêm yn lle Heidar Helguson a chymerodd ei gyfle wedi dim ond wyth munud, gan rwydo croesiad Craig Noone yn daclus yn y cwrt chwech.
Cafodd Millwall ddigon o gyfleoedd hefyd ond cafodd David Marshall gêm dda yn y gôl i Gaerdydd gan ddechrau gyda dau arbediad da o ddau beniad gan Darius Henderson hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.
Yn y pen arall, bu bron i Mark Hudson ddyblu mantais yr Adar Gleision yn dilyn cyd chwarae da gyda Craig Bellamy ond llwyddodd David Forde i arbed.
Cafodd Bellamy ei hun gyfle da yn yr ail hanner hefyd ond bu’n wastraffus, ac ar y cyfan Millwall oedd yn edrych fwyaf tebygol o sgorio.
Cafodd yr ymwelwyr ddigon o gyfleoedd, y gorau o’r rheiny i James Henry toc cyn yr awr. Ond profodd cynnig cynnar Gestede yn ddigon yn y diwedd wrth i Gaerdydd ddal eu gafael ar y tri phwynt hyd y diwedd.
Mae’r tri phwynt hynny yn cynnal mantais yr Adar Gleision o bum pwynt ar frig y Bencampwriaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Turner, Whittingham, Conway, Noone (Cowie 73’), Gunnarsson (Mutch 45’), Gestede (Helguson 77’), Bellamy
Gôl: Gestede 8’
Cerdyn Melyn: Conway 38’
.
Millwall
Tîm: Forde, Shittu, Lowry, Beevers, Smith, Malone (Feeney 18’), Trotter, Henry, Abdou, Henderson, N’Guessan (Batt 64’)
.
Torf: 24,263