Fulham 1–2 Abertawe
Cafodd Abertawe fuddugoliaeth yn Craven Cottage brynhawn Sadwrn er i Michael Laudrup wneud saith newid i’r tîm cyn herio Fulham yn yr Uwch Gynghrair.
Dechreuodd Danny Graham gan fod Miguel Michu wedi ei anafu, a’i gôl yntau roddodd yr Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf. Ychwanegodd Jonathan De Guzman ail yn gynnar yn yr ail gyfnod i ddyblu’r fantais ac er i Brian Ruiz dynnu un yn ôl i’r tîm cartref fe ddaliodd Abertawe eu gafael.
Daeth Dimatar Berbatov yn agos i’r tîm cartref cyn i Graham rwydo i’r Elyrch wedi deunaw munud. Gwyrodd gôl-geidwad Fulham, David Stockdale, ergyd wantan Nathan Dyer yn syth i lwybr Graham a gwnaeth yntau’r gweddill o chwe llath.
Brian Ruiz oedd prif fygythiad tîm Martin Jol trwy gydol y gêm a bu bron iddo unioni’r sgôr mewn steil gydag ergyd o bellter toc cyn yr egwyl ond llwyddodd Gerhard Tremmel i arbed yn gyfforddus.
Roedd y tîm o Gymru ym mhellach ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner a Stockdale oedd ar fai unwaith eto. Ciciodd y golwr y bêl yn syth yn erbyn ei gyd chwaraewr, Brede Hangeland, cyn i Pablo Hernandez ei phasio i De Guzman ar ymyl y cwrt cosbi. Roedd ganddo yntau ddigon i’w wneud o hyd ond gorffennodd yn daclus i’r gornel isaf.
Un gôl oedd ynddi unwaith eto bedwar munud yn ddiweddarach wedi i Ruiz rwydo gôl flêr. Roedd hi’n draed moch yng nghwrt chwech Abertawe wedi i beniad Berbatov daro’r trawst a llwyddodd Ruiz i roi’r bêl dros y llinell yn y diwedd.
Parhau i bwyso a wnaeth Fulham wedi hynny ond daliodd Abertawe eu gafael i sicrhau buddugoliaeth dda. Aros yn nawfed y mae’r Elyrch yn nhabl yr Uwch Gynghrair serch hynny.
Ymateb
Michael Laudrup, rheolwr Abertawe:
“Fe chwaraeon ni heddiw heb Michu, ac fel rheolwr roedd hi’n braf gweld y tîm, hyd yn oed heb y prif sgoriwr, yn sgorio goliau ac yn ennill gêm oddi cartref.”
.
Fulham
Tîm: Stockdale, Hangeland, Briggs, Hughes, Riether, Sidwell, Karagounis, Frei (Senderos 84’), Berbatov, Ruiz, Dejagah (Rodallega 76’)
Gôl: Ruiz 56’
Cardiau Melyn: Karagounis 34’, Sidwell 77’
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Williams, Monk, Tiendalli, Rangel, Pablo (Davies 66’), Dyer, Routledge (Ki Sung-Yeung 46’), De Guzman, Agustien (Britton 82’), Graham
Goliau: Graham 19’, De Guzman 52’
Cerdyn Melyn: Agustein 79’
.
Torf: 25,700