Cyhoeddwyd heddiw bod asgellwr Cymru, Alex Cuthbert wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gleision.

Mae’r cytundeb yn golygu y bydd Cuthbert, sy’n 22, yn aros yng Nghaerdydd am dair blynedd arall.

“Cefais sawl cynnig da gan glybiau eraill, ond roeddwn i eisiau aros hefo’r Gleision,” meddai.

“Roedd llawer o benderfyniadau i’w gwneud, ond dwi’n falch ei fod wedi sortio nawr a dyma lle dwi eisiau bod i ddatblygu fy ngyrfa rygbi.”

Ers chwarae am y tro cyntaf dros Gymru yn 2011, mae Cuthbert wedi cadw ei le yn gyson, ac wedi dod yn un o chwaraewyr pwysicaf y Gleision.

“Dwi wedi gweld y datblygiad ar y cae, ac er nad ydyn ni’n cael y canlyniadau gorau ar hyn o bryd, rydyn ni’n colli o drwch blewyn, ac rydyn ni’n gallu teimlo bod y canlyniadau gwell yn dod,” meddai.

Johnson yw hyfforddwr dros dro Yr Alban.

Yn y cyfamser, mae Scott Johnson wedi cael ei enwi fel hyfforddwr dros dro Yr Alban.  Mae Johnson yn cymryd y rôl wedi i Andy Robinson ymddiswyddo fis diwethaf.

Roedd Johnson yn un o staff hyfforddi’r tîm o dan Robinson, a bydd yn arwain Yr Alban i mewn i’w gêm yn erbyn Lloegr ar 2 Chwefror.