Caerwysg 30–20 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets am y pedwerydd tro yng ngrŵp 5 Cwpan Heineken brynhawn Sadwrn wrth i Gaerwysg eu curo ar Barc Sandy.

Fe wnaeth y Cymry daro’n ôl yn dilyn dechrau da’r tîm cartref ac roeddynt yn gyfartal am gyfnod yn yr ail hanner, ond gorffennodd Caerwysg yn gryf gan ennill y gêm gyda chais hwyr.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y tîm cartref yn dda ac roeddynt ar y blaen wedi dim ond pedwar munud diolch i gais y canolwr, Ian Whitten, a throsiad y maswr, Gareth Steenson.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Scarlets funud yn ddiweddarach pan welodd Liam Williams gerdyn melyn. A gyda chefnwr y Cymry yn y gell gosb, fe giciodd Steenson ei dîm dri phwynt ym mhellach ar y blaen.

Ymatebodd Aled Thomas gyda chic gosb i’r Scarlets ond buan iawn y dilynodd ail gais Caerwysg. Y bachwr, Simon Alcott, oedd y sgoriwr y tro hwn ac roedd gan y tîm cartref bedwar pwynt ar ddeg o fantais yn dilyn trosiad Steenson.

Cyfle Caerwysg i chwarae gydag un yn llai oedd hi wedyn wrth i’r clo, James Hanks, dreulio deg munud yn y gell gallio.

Ac er i’r Scarlets fethu manteisio yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnaeth Ken Owens dirio cais cyntaf yr ymwelwyr bum munud cyn yr egwyl. 17-13 yn dilyn trosiad Thomas a Bois y Sosban yn ôl yn y gêm.

Ond Caerwysg a Steenson gafodd y gair olaf cyn yr egwyl wrth i’r Gwyddel drosi tri phwynt arall i ymestyn y fantais i saith pwynt.

Ail Hanner

Sgoriodd Scott Williams wedi dim ond dau funud o’r ail hanner ac roedd y Scarlets yn gyfartal ar ôl trosiad Thomas, 20-20 gyda bron i hanner y gêm i fynd.

Ond tawelodd pethau wedi hynny ac wedi i Steenson roi Caerwysg yn ôl ar y blaen gyda chic gosb ar yr awr, fe sicrhaodd y blaenasgellwr cartref, James Scaysbrook, y fuddugoliaeth gyda chais yn y munud olaf.

Mae’r canlyniad yn gadael y Scarlets ar waelod grŵp 5 gyda dau bwynt yn unig.

.

Caerwysg

Ceisiau: Ian Whitten 4’, Simon Alcott 16’, James Scaysbrook 79’

Trosiadau: Gareth Steenson 4’, 16’, 79’

Ciciau Cosb: Gareth Steenson 8’, 40’, 61’

Cerdyn Melyn: James Hanks 22’

.

Scarlets

Ceisiau: Ken Owens 35’, Scott Williams 42’

Trosiadau: Aled Thomas 35’, 42’

Ciciau Cosb: Aled Thomas 11’, 25’

Cerdyn Melyn: Liam Williams 5’