Caerdydd 1–2 Peterborough

Mae record gant y cant Caerdydd gartref yn y gynghrair drosodd ar ôl iddynt golli yn erbyn Peterborough yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Adar Gleision ar frig y Bencampwriaeth ac wedi ennill deg gêm gartref allan o ddeg cyn herio’r tîm ar y gwaelod, Peterborough. Ond roedd goliau Michael Bostwick a Dwight Gayle yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r ymwelwyr.

Er bod tabl cyfan yn gwahanu’r ddau dîm ar y dechrau doedd fawr o dystiolaeth o hynny yn yr hanner cyntaf wrth i Peterborough greu digon o gyfleoedd.

A chymerodd yr ymwelwyr un o’r rheiny hanner ffordd trwy’r hanner, Bostwick yn sgorio gyda chic rydd o ochr y cwrt cosbi yn syth i’r gornel uchaf, dim gobaith i David Marshall yn y gôl.

Mantais annisgwyl i dîm Darren Ferguson ar yr egwyl felly ac roedd hi’n ddwy wedi dim ond dau funud o’r ail hanner diolch i gôl Gayle. Gwrthymosododd Peterborough yn dda a daeth Lee Tomlin o hyd i Gayle yn y canol a gwnaeth yntau’r gweddill.

Roedd rhaid i Gaerdydd bwyso wedi hynny a gwnaeth Malky Mackay sawl newid ymosodol. Ac un o’r eilyddion hynny, Rudy Gestsede, a dynnodd un yn ôl iddynt funud cyn diwedd y naw deg.

Cafodd Caerdydd chwe munud o amser anafiadau i chwilio am un arall ond daliodd Peterborough eu gafael i gipio’r tri phwynt a dod a record gofiadwy’r Adar Gleision i ben.

Maent yn aros ar frig y Bencampwriaeth serch hynny gan mai dim ond gêm gyfartal gafodd Crystal Palace yn Birmingham.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton (Gunnarsson 51’), Taylor, Turner, Connolly, Whittingham, Cowie (Mutch 53’), Conway (Gestede 64’), Noone, Helguson, Bellamy

Gôl: Gestede 89’

Cardiau Melyn: Connolly 20’, Helguson 21’, Cowie 44’, Turner 90’

.

Peterborough

Tîm: Olejnik, Zakuani, Little, Bostwick, Rowe (Brisley 83’), Newell (Ferdinand 82’), Knight-Percival (Alcock 68’), Thorne, Tomlin, Boyd, Gayle

Goliau: Bostwick 22’, Gayle 47’

Cardiau Melyn: Bostwick 5’, Night-Percival 45’, Zakuani 55’, Tomlin 90’

.

Torf: 22,073