Gweilch 17–6 Toulouse
Mae gobeithion y Gweilch o gyrraedd wyth olaf Cwpan Heineken yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth dros Toulouse yng ngrŵp 2 ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Ciciodd Dan Biggar yn gywir a sgoriodd Eli Walker unig gais y gêm hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth i’r Cymry sicrhau buddugoliaeth gofiadwy dros y cewri o Ffrainc.
Cafodd y Gweilch ddechrau perffaith gyda Biggar yn trosi cic gosb wedi dim ond tri munud a dyblodd y maswr y fantais hanner ffordd trwy’r hanner gyda gôl adlam.
Bu rhaid i’r Ffrancwyr chwarae gyda phedwar dyn ar ddeg am ddeg munud wedi hynny ar ôl i’r clo, Patricio Albacete, gael ei gosbi am gicio.
Toulouse sgoriodd nesaf serch hynny wrth i Jean Marc Doussain gicio tri phwynt cyntaf ei dîm yn dilyn trosedd Ian Gough.
Adferodd Biggar chwe phwynt o fantais y tîm cartref cyn i Albacete ddychwelyd ond dim ond tri phwynt oedd ynddi ar yr egwyl wedi i Doussain orffen yr hanner gyda gôl adlam.
Cafodd maswr Toulouse gyfle i unioni’r sgôr ar ddechrau’r ail hanner ond tarodd ei ymdrech yn erbyn y postyn. A gyda’r Ffrancwyr i lawr i bedwar dyn ar ddeg eto yn dilyn cerdyn melyn Jean Bouilhou, fe giciodd Biggar dri phwynt arall i’r Gweilch ar yr awr.
Yna, bum munud yn ddiweddarach fe fanteisiodd y Gweilch ym mhellach gan sgorio unig gais y gêm. Lledwyd y bêl yn gyflym i Walker ar yr asgell a churodd yntau ei ddyn mewn steil cyn tirio yn y gornel.
Methodd Biggar y trosiad ond roedd gan y Gweilch un ar ddeg pwynt o fantais gyda dim ond chwarter awr ar ôl.
Fe wnaeth Toulouse fygwth yn y cyfnod hwnnw ond amddiffynnodd y tîm cartref yn ddewr, hyd yn oed heb Adam Jones pan dreuliodd y prop y pum munud olaf yn y gell gosb.
Main iawn yw gobeithion y Gweilch er gwaethaf y fuddugoliaeth. Maent yn drydydd yng ngrŵp 2 gyda naw pwynt, bedwar y tu ôl i Gaerlŷr yn yr ail safle.
.
Gweilch
Cais: Eli Walker 65’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 3’, 34’, 61’
Gôl Adlam: Dan Biggar 21’
Cerdyn Melyn: Adam Jones 76’
.
Toulouse
Cic Gosb: Jean Marc Doussain 29’
Gôl Adlam: Jean Marc Doussain 40’
Cardiau Melyn: Patricio Albacete 25’, Jean Bouilhou 60’