Fe fydd George North yn dychwelyd ar yr asgell i’r Scarlets y penwythnos yma yn erbyn Caerwysg wedi iddo wella o’r anaf i’w glun.
Ymysg y cefnwyr fe fydd Jonathan Davies yn arwain y Scarlets ynghyd â’i gyd-chwaraewyr rhyngwladol Scott Williams a Liam Williams. Gareth Maule a George North fydd ar yr esgyll.
Ymysg y blaenwyr fe fydd Ken Owens yn dechrau yn safle’r bachwr a Sione Timoni a Richard Kelly yn cwblhau’r rheng flaen. Geroge Earle fydd yn cymryd lle Aaron Shingler, gyda Johnathan Edwards a Kieran Murphy yn cadw eu lle yn y tîm.
Tîm y Sgarlets
Olwyr – Liam Williams, George North, Jonathan Davies (Capten), Scott Williams, Gareth Maule, Aled Thomas ac Aled Davies.
Blaenwyr – Shaun Hopkins, Ken Owens, Samson Lee, Sione Timani, Richard Kelly, George Earle, Johnathan Edwards a Kieran Murphy.
Eilyddion – Matthew Rees, Rhodri Jones, Deacon Manu, Johan Synman, Tomás Vallejos, Tavis Knoyle, Dan Newton, Kristian Phillips.