Nos yfory, fe fydd y Gleision yn herio’r Gweilch ar faes y Liberty.

Nid yw’r Gweilch wedi colli yn y Liberty ers 14 Medi pan wnaeth Glasgow eu curo.

Gyda llawer o’r chwaraewyr o’r ddau ranbarth yng ngharfan Cymru a rhestr hir o anafiadau, mae Phil Davies, rheolwr y Gleision, wedi dweud ei fod am roi cyfle i lawer o’i chwaraewyr ifanc.

‘‘Rydym wedi rhoi cyfle i’r chwaraewyr ifanc, llawer sy’n iau na 22 oed.  Bydd hyn yn gyfle gwych iddynt,’’ meddai Phil Davies.

Mae disgwyl i Tom James fod allan am 6 mis wedi iddo dorri asgwrn yn ei droed.

Bydd y gêm yn fyw a’r BBC 2 Cymru (7:05)

Tîm y Gleision

Olwyr – Rhys Patchell, Tom Williams, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Owen Williams, Ceri Sweeney a Lloyd Williams.

Blaenwyr – Robin Copelan, Josh Navidi (Capten), Rory Watts-Jones, James Down,  Michael Paterson, Taufa’ao Filise, Marc Breeze a Sam Hobbs .

Eilyddion – Andi Kyriacou, Nathan Trevett, Benoit Bourrust, Macauley Cook, Andries Pretorius, Lewis Jones, Gareth Davies a Jason Tovey.