Leigh Halfpenn
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi cyhoeddi’r tîm fydd yn chwarae yn erbyn Awstralia brynhawn Sadwrn.

Mae’r blaenasgellwr amryddawn Aaron Shingler yn dechrau’r gêm tro yma tra bod Ryan Jones yn symud i’r fainc.

Mae Gethin Jenkins, Scott Andrews a Ian Evans hefyd yn dechrau yn y pac, ac mae Rhys Priestland yn dal ei afael ar y crys rhif 10.

Cymru

OlwyrLeigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Liam Williams, Rhys Priestland a Mike Phillips.

Blaenwyr – Gethin Jenkins, Matthew Rees, Scott Andrews, Ian Evans, Luke Charteris, Aaron Shingler, Sam Warburton (Capten) a Toby Faletau.

Eilyddion – Ken Owens, Ryan Bevington, Samson Lee, Ryan Jones, Justin Tipuric, Tavis Knoyle, Dan Biggar a Scott Williams.

Awstralia

Mae’r blaenasgellwr dylanwadol David Pocock yn dychwelyd i dim Awstralia ar ôl anafu ei goes ym mis Awst.

Bydd ei bresenoldeb yn cryfhau tim sydd eisoes yn llawn chwaraewyr dylanwadol megis y cefnwr Berrick Barnes, y maswr Kurtley Beale, yr ail reng Nathan Sharpe a’r bachwr gwalltog Tatafu Polota.

Olwyr – Berrick Barnes, Nick Cummins, Adam Ashley-Cooper, Ben Tapuai, Drew Mitchell, Kurtley Beale, Nick Phipps

Blaenwyr – Wycliff Palu, David Pocock, Scott Higginbotham, Nathan Sharpe, Kane Douglas, Ben Alexander, Tatafu Polota Nau, Benn Robinson

Eilyddion – Stephen Moore, James Slipper, Sekope Kepu, Dave Dennis, Michael Hooper, Brendan McKibbin, Mike Harris, Digby Ioane