Caerwrangon 34–18 Scarlets
Ildiodd y Scarlets fantais dda yn Stadiwm Sixways brynhawn Sadwrn wrth golli yn erbyn Caerwrangon yn y Cwpan LV.
Roedd Bois y Sosban ar y blaen ar yr egwyl ond sgoriodd Caerwrangon bedwar cais yn yr hanner awr olaf i ennill y gêm yn gyfforddus yn y diwedd.
Chwech yr un oedd hi ar ôl chwarter awr yn dilyn dwy gic gosb yr un gan y maswyr, Owen Williams a Joe Carlisle. Ond y Scarlets oedd ar y blaen erbyn hanner amser wedi i Andy Fenby sgorio unig gais yr hanner.
Gorffennodd y ddau dîm yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i’r ddau glo, Dean Schofield a Johan Snyman, gael eu hanfon i’r gell gallio
Tarodd Caerwrangon yn ôl mewn steil yn yr ail hanner gyda cheisiau i Ben Howard, Semisi Taulava a Jake Abbott wrth iddynt ruthro ar y blaen o bedwar pwynt ar ddeg gyda phum munud i fynd.
Fe wnaeth asgellwr y Scarlets, Kristian Phillips, daro’n ôl gydag ail gais y Scarlets wedi hynny ond y tîm cartref a gafodd y gair olaf wrth i’r eilydd, Neil Best, groesi am gais hwyr.
Gorffennodd Carlisle’r gêm gyda phedwar pwynt ar ddeg yn ei gyfrif personol a sicrhaodd ei dîm bwynt bonws.
.
Caerwrangon
Ceisiau: Ben Howard 55’, Semisi Taulava 68’, Jake Abbott 73’, Neil Best 80’
Trosiadau: Joe Carlisle 55’, 68’, 73’, 80’
Ciciau Cosb: Joe Carlisle 3’, 13’
Cerdyn Melyn: Dean Schofield 32’
Scarlets
Ceisiau: Andy Fenby 17’, Kristian Phillips 76’
Trosiad: Owen Williams 17’
Ciciau Cosb: Owen Wiliams 6’, 11’
Cerdyn Melyn: Johan Snyman 32’