Caerdydd 2–1 Hull

Mae record gartref gant y cant Caerdydd yn parhau yn dilyn buddugoliaeth dros Hull yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Roedd goliau Heidar Helguson a Mark Hudson yn ddigon i sicrhau wythfed buddugoliaeth gartref o’r bron i dîm Malky Mackay.

Dim ond tri munud oedd ar y cloc pan beniodd Helguson groesiad Craig Noone heibio i’r dyn rhwng y pyst i Hull, Ben Amos.

Bu bron i Hudson ddyblu mantais y tîm cartref ond tarodd ei beniad yn erbyn y trawst. A gorffennodd Hull yr hanner yn gryf gyda Robert Koren yn dod yn agos.

Daeth y ddau dîm yn agos gyda chiciau rhydd yn yr ail hanner. Tarodd ymdrech Sone Aluko o bump llath ar hugain yn erbyn trawst gôl David Marshall, ac yn y pen arall fe wnaeth Amos yn dda i arbed cynnig Peter Wittingham.

Yna, gyda saith munud ar ôl, fe seliodd Hudson y fuddugoliaeth gyda pheniad da o groesiad Aron Gunnarsson.

Ceisiodd Wittingham ei lwc o bellter gyda chic rydd arall yn y munudau olaf cyn i Koren rwydo gôl gysur hwyr i’r ymwelwyr gyda chwip o foli.

Aros yn y trydydd safle yn nhabl y Bencampwriaeth y mae Caerdydd er gwaethaf y tri phwynt oherwydd buddugoliaethau Crystal Palace a Middlesbrough dros y penwythnos.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton (Kiss 19’ [Ralls 46’]), Taylor, Hudson, Turner, Whittingham, Kim Bo-Kyung, Noone, Gunnarsson, Mason, Helguson (Gestede 66’)

Goliau: Helguson 3’, Hudson 83’

Cardiau Melyn: Kim Bo-Kyung 60’, Turner 71’

Hull

Tîm: Amos, Rosenior, Chester, McShane (Brady 56’), Faye, Elmohamady, Evans, Koren, Quinn (Mclean 75’), Simpson (Meyler 56’), Aluko

Gôl: Koren 90’

Torf: 20,058