Southampton 1–1 Abertawe

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi rhwng Abertawe a Southampton yn Stadiwm St Mary’s brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Morgan Schneiderlin y tîm cartref ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner ond unionodd yr eilydd, Nathan Dyer, i gipio pwynt i’r Elyrch.

Cafwyd hanner cyntaf di sgôr cyn i Schneiderlin benio’r Seintiau ar y blaen wedi ugain munud o’r ail hanner yn dilyn gwaith da gan Rickie Lambert.

Ond roedd y tîm cartref ar y blaen am lai na deg munud diolch i gamgymeriad amddiffynnol Maya Yoshida. Methodd yr amddiffynnwr â rheoli’r bêl a manteisiodd Dyer i sgorio chwarter awr yn unig ar ôl dod i’r cae fel eilydd.

Cafodd Lambert i gyfleoedd i ennill y gêm i Southampton ond llwyddodd y gôl-geidwad, Gerhard Tremmel, i arbed. Ac yn y pen arall bu bron i’r Cymry gipio’r pwyntiau i gyd yn y munudau olaf ond llwyddodd Daniel Fox i atal Itay Shechter.

Aros yn yr unfed safle ar ddeg y mae Abertawe er gwaethaf y pwynt oddi cartref.

.

Southampton

Tîm: Gazzaniga, Clyne, Yoshida, Fonte, Shaw (Fox 74’), Schneiderlin, Ramirez, Cork, Lallana, Puncheon, Lambert

Gôl: Schneiderlin 64’

Cardiau Melyn: Schneiderlin 34’, Lallana 63’

Abertawe

Tîm: Tremmel, Williams, Monk, Rangel, Davies, Britton (Shechter 66’), Michu, Pablo, Routledge (Dyer 56’), De Guzman (Agustien 86’), Ki Sung-Yeung

Gôl: Dyer 73’

Cardiau Melyn: William 35’, Agustein 89’

Torf: 30,501