Cymru 12–26 Yr Ariannin
Cafodd Cymru eu curo’n hawdd gan yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn yn y gyntaf o gemau’r Hydref.
Roedd Cymru ar y blaen o drwch blewyn ar yr egwyl ond dim ond un tîm oedd ynddi yn yr ail hanner ac roedd yr ymwelwyr o Dde America’n llawn haeddu’r fuddugoliaeth.
Hanner Cyntaf
Yr Ariannin a gafodd y dechrau gorau ac roeddynt ar y blaen o 6-3 wedi deg munud diolch i gic gosb Felipe Contepomi a gôl adlam Nicolas Sanchez.
Roedd Cymru fymryn yn well yn yr ail chwarter ond roeddynt braidd yn ffodus i fod ar y blaen erbyn hanner amser diolch i dair cic gosb Leigh Halfpenny.
Ail Hanner
Methodd Sanchez ddau gyfle cynnar i unioni’r sgôr ar ddechrau’r ail hanner. Tarodd ymdrech gyntaf y maswr yn erbyn y postyn a llithrodd ar gae gwlyb Stadiwm y Mileniwm wrth geisio cicio’r ail.
Cymru yn hytrach a gafodd bwyntiau cyntaf yr ail hanner gyda phedwaredd cic gosb lwyddiannus Halfpenny.
Caeodd Sanchez y bwlch i dri phwynt unwaith eto gyda’i ail gôl adlam o’r gêm yn fuan wedyn cyn i’r ymwelwyr orffen y gêm yn gryf yn yr hanner awr olaf.
Sgoriodd yr asgellwr chwith, Juan Imhoff, o dan y pyst i ddechrau yn dilyn dadlwytho gwych gan y blaenwyr cyn i’w gyd asgellwr, Gonzalo Camacho, sgorio’r ail ar yr awr.
Roedd hwnnw’n gais taclus iawn hefyd, y blaenwyr yn gosod y sylfaen a’r cefnwyr yn lledu’r bêl yn slic i Camacho ar y dde. Roedd ganddo yntau ddigon i’w wneud ond llwyddodd i ddal y bêl a’i thirio gydag un llaw er gwaethaf ymdrechion Halfpenny i’w atal.
Trosodd Sanchez y ddau gais yn ogystal â chic gosb hwyr i roi pedwar pwynt ar ddeg o fantais i’w dîm, a siomedig iawn oedd ymdrechion Cymru i daro’n ôl yn y munudau olaf.
Barn y Capten
Roedd capten Cymru, Sam Warburton, yn siomedig iawn yn dilyn y gêm ond nid oedd yn barod i feio paratoadau’r tîm hyfforddi newydd am y canlyniad:
“Rydym yn siomedig iawn, ennill oedd y targed a wnaethom ni ddim.”
“Roedd safon yr ymarfer yng Ngwlad Pwyl yn dda iawn felly doedd y paratoadau ddim yn ffactor, ond yn amlwg doedd y perfformiad ddim yn ddigon da.”
.
Cymru
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 7’, 14’, 27’, 48’
Yr Ariannin
Ceisiau: Juann Imhoff 55’, Gonzalo Camacho 60’
Trosiadau: Nicolas Sanchez 56’, 61’
Cic Gosb: Felipe Contepmi 4’
Goliau Adlam: Nicolas Sanchez 10’, 52’