Wrecsam 1–2 Henffordd

Collodd Wrecsam gyfle i gynyddu’r pwysau ar Gasnewydd ar frig y Gyngres wrth golli yn erbyn Henffordd ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Luke Graham yn yr amser a ganiateir am anafiadau wrth i’r ymwelwyr gipio’r tri phwynt yn hwyr yn y gêm.

Roedd Henffordd ar y blaen wedi dim ond wyth munud diolch i lanast amddiffynnol yng nghwrt cosbi Wrecsam. Methodd y tîm cartref a chlirio a pheniodd Chris Todd yr ymwelwyr ar y blaen.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond dechreuodd Wrecsam yr ail hanner yn well ac roeddynt yn gyfartal toc cyn yr awr diolch i dipyn o gôl gan Stephen Wright. Sgoriodd yr amddiffynnwr profiadol gydag ymdrech din dros ben dda.

Parhau i bwyso a wnaeth y Dreigiau wedi hynny a bu bron iddynt fynd ar y blaen ddeg munud o’r diwedd ond tarodd ymdrech Joe Clarke yn erbyn y postyn.

Henffordd yn hytrach a gafodd y gair olaf a hynny’n hwyr hwyr yn y gêm. Daeth Samuel Clucas o hyd i Graham yn y cwrt chwech a pheniodd yr amddiffynnwr heibio i Andy Coughlin yn y gôl i Wrecsam.

Canlyniad siomedig i dîm Andy Morrell felly ac maent yn disgyn o’r ail safle yn nhabl y Blue Square.

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Wright, Ashton, Westwood, Devine, Harris, Keates, Clarke, Wright (Ogleby 81’), Morrell (Cieslewicz 46’), Rushton

Gôl: Wright 58’

Cerdyn Melyn: Clarke 54’

Henffordd

Tîm: Bittner, Heath, Graham, Stam, Todd, Clist, McQuilkin (Pell 63’), Evans (Smikle 63’), Clucas, O’Keefe, Bowman

Goliau: Todd 8’, Graham 90’

Cardiau Melyn: Bittner 60’, Todd 85’

Torf: 3,620