Alfreton 4–3 Casnewydd

Colli fu hanes Casnewydd yn Uwch Gynghrair y Blue Square yn erbyn Alfreton yn North Street nos Wener. Er i’r ymwelwyr o Gymru sgorio tair, aeth y tîm cartref un yn well gan rwydo pedair.

Peniodd Nathan Arnold Alfreton ar y blaen o groesiad Dan Bradley wedi dim ond chwe munud. A dyblodd Paul Clayton y fantais ddeg munud yn ddiweddarach gyda pheniad arall.

Tynnodd Michael Smith un yn ôl i Gasnewydd cyn i Bradley adfer mantais Alfreton o’r smotyn yn hwyr yn yr hanner yn dilyn trosedd David Pipe ar Ben Tomlinson.

Roedd Casnewydd yn ôl yn y gêm ar yr awr diolch i gôl Aaron O’Connor ond buan iawn yr oedd y tîm cartref ar y blaen o ddwy unwaith eto diolch i ail gôl Clayton.

Fe wnaeth O’Connor sgorio ei ail yntau o’r gêm tuag at y diwedd hefyd ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi i dîm Justin Edinburgh.

Mae Casnewydd yn aros ar frig y Gyngres er gwaethaf y canlyniad, bedwar pwynt o flaen Wrecsam yn yr ail safle, ond mae gan y Dreigiau ddwy gêm wrth gefn gan gynnwys un brynhawn Sadwrn yn erbyn Henffordd.

.

Alfreton

Tîm: Stewart, Law, Franklin (Brown 84’), Franks, Killock, Bradley, Arnold, Meadows, Streete, Clayton, Tomlinson

Goliau: Arnold 6’, Clayton 17’, 70’, Bradley [c.o.s.] 45’

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Pipe, James, Yakubu, Sandell, Porter, Minshull (Evans 56’), Swallow (Louis 71’), Flynn (Thomson 56’), O’Connor, Smith

Goliau: Smith 35’, O’Connor 60’, 89’

Cardiau Melyn: Yakubu 29’, Pipe 53’, O’Connor 68’

Torf: 663