Gleision 22–17 Wasps
Cafodd y Gleision ddechrau da i’w hymgyrch yng Nghwpan LV gyda buddugoliaeth dros y Wasps ar Barc yr Arfau nos Wener.
Sgoriodd y tîm cartref ddau gais yn y chwarter olaf i ennill y gêm, gan olygu mai dychweliad aflwyddiannus i Gaerdydd oedd hi i hyfforddwr Wasps, Dai Young.
Y rhanbarth o Gymru a gafodd y dechrau gorau gyda chais i’r cefnwr, Dan Fish, wedi deuddeg munud. Ond er i Gareth Davies drosi’r ymdrech honno i roi saith pwynt o fantais i’r tîm cartref, yr ymwelwyr o Lundain oedd ar y blaen erbyn yr egwyl.
Trosodd Tommy Bell ddwy gic gosb i gau’r bwlch i bwynt cyn i’r cefnwr, Elliot Daly, efelychu camp Fish a chroesi am gais cyntaf Wasps ychydig funudau cyn yr egwyl. Methodd Bell y trosiad ond llwyddodd gyda chic gosb yn eiliadau olaf yr hanner i roi saith pwynt o fantais i’w dîm ar yr egwyl.
Cyfnewidiodd Davies a Bell gic gosb yr un yn ugain munud cyntaf yr ail hanner ac roedd pethau’n edrych yn ddu ar y Gleision gyda dim ond chwarter y gêm yn weddill.
Ond croesodd yr asgellwr, Tom James, ar yr awr i gau’r bwlch i ddau bwynt cyn i’r eilydd faswr, Ceri Sweeney, dirio a throsi i ennill y gêm i’r tîm cartref ddeg munud o’r diwedd.
.
Gleision
Ceisiau: Dan Fish 12’, Tom James 60’, Ceri Sweeney 70’
Trosiadau: Gareth Davies 12’, Ceri Sweeney 70’
Cic Gosb: Gareth Davies 44’
Wasps
Cais: ElliotDaly 36’
Ciciau Cosb: Tommy Bell 15’, 20’, 40’, 57’