Gweilch 33–27 Caerloyw
Cafwyd digon o ddrama yn y deg munud olaf yn Stadiwm Liberty nos Wener wrth i’r Gweilch guro Caerloyw yn y Cwpan LV.
Roedd gan y Gweilch fantais iach gyda deg munud i fynd ond sgoriodd yr ymwelwyr ddau drosgais hwyr i fynd ar y blaen. Ond roedd digon o amser ar ôl i Morgan Allan fachu’r fuddugoliaeth i’r Gweilch gyda chais hwyrach byth.
Chwech yr un oedd hi wedi chwarter y gêm diolch i gicio cywir Matthew Morgan a Billy Burns. Llwyddodd Burns gyda dwy gic gosb a Morgan gydag un gic gosb ac un gôl adlam.
Yna, gydag ail reng y Gweilch, James King, yn y gell gosb fe groesodd prop Caerloyw, Yann Thomas, am gais cyntaf y gêm. Ychwanegodd Burns y trosiad i ymestyn y fantais i saith pwynt.
Ond y Gweilch oedd ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i droed ddibynadwy Morgan. Llwyddodd y maswr bach gyda dwy gic gosb arall ac ail gôl adlam i roi ei dîm ar y blaen wedi deugain munud.
Tro Caerloyw i chwarae gyda phedwar dyn ar ddeg oedd hi doc cyn yr awr wrth i’r wythwr, Peter Buxton, dderbyn cerdyn melyn. A manteisiodd y Gweilch yn llawn gan sgorio un pwynt ar ddeg mewn deg munud.
Ciciodd Morgan a’i eilydd, Sam Davies, gic gosb yr un a chroesodd Tom Grabham am gais cyntaf y tîm cartref i sefydlu mantais dda gyda dim ond deg munud i fynd.
Ond sgoriodd Caerloyw ddau gais mewn tri munud, y naill gan Dan Murphy a’r llall yn gais cosb, i fynd ar y blaen gyda dim ond tri munud i fynd.
Roedd angen arwr ar y Gweilch felly a Morgan Allen oedd hwnnw – croesodd yr wythwr funud cyn y diwedd i ennill y gêm i’r rhanbarth o Gymru a rhoi’r dechreuad perffaith iddynt yn y Cwpan LV.
.
Gweilch
Ceisiau: Tom Grabham 67’, Morgan Allan 79’
Trosiad: Sam Davies 79’
Ciciau Cosb: Matthew Morgan 11’, 36’, 40’, 59’, Sam Davies 63’
Goliau Adlam: Matthew Morgan 20’, 30’
Cerdyn Melyn: James King 26’
Caerloyw
Ceisiau: Yann Thomas 27’, Murphy 74’, Cais Cosb 77’
Trosiadau: Billy Burns 27’, Robson 74’, 77’
Ciciau Cosb: Billy Burns 9’, 17’
Cerdyn Melyn: Peter Buxton 58’