James Hook
Mi allai Gleision Caerdydd arwyddo James Hook i lenwi’r bwlch fydd yn cael ei adael gan Jamie Roberts ddiwedd y tymor wrth iddo adael am Ffrainc, meddai’r Western Mail heddiw.

Tra mae canolwr Cymru’n debygol o ymuno gyda Racin Metro, mae clwb James Hook yn Ffrainc mewn trafferthion.

Yn ôl ffynonellau mae Perpignan yn wynebu gorfod cwtogi ar wariant ar chwaraewyr.

Hook yw’r chwaraewr sy’n ennill y mwya’ o gyflog gyda’r clwb, sef £300,000 y flwyddyn.