Tavis Knoyle
Blogiwr rygbi Golwg360, Owain Gwynedd, sy’n ymateb i ddewisiadau tîm Robert Howley cyn i Gymru herio’r Ariannin ddydd Sadwrn.
Pwy wnaeth ragweld byddai Tavis Knoyle yn cael ei ddewis fel mewnwr yn lle Mike Phillips?
Wel, ddim y fi. Er hynny, hwnna oedd yr unig wir sioc yn nhîm Rob Howley. Fel arall mae hyfforddwr dros dro Cymru wedi dewis craidd y tîm a enillodd y gamp lawn lai ‘na 9 mis yn ôl.
Mae’r dewisiadau yn dangos bod Warren Gatland, sydd i ffwrdd yn paratoi ar gyfer taith y Llewod i Awstralia, a Howley wedi datblygu dull o chwarae. Maen nhw am ddewis y chwaraewyr gora i’r steil yna’n lle’r chwaraewyr sy’n chwarae orau i’w rhanbarthau.
Yr enghraifft berffaith ydi dewis Josh Turnbull fel blaenasgellwr ochr dywyll yn lle Justin Tipuric. Heb os, Tipuric ydi’r blaenasgellwr gora yng Nghymru ar y funud o ran safon a chysondeb ei chwarae ond Turnbull ydi’r agosaf o ran steil chwarae i Dan Lydiate (ffêr) a Ryan Jones (ysgwydd) sydd yn absennol oherwydd anafiadau.
Fysa dewis Tipuric a Warburton, dau rif saith naturiol, yn golygu y byddai Cymru’n gorfod datblygu steil wahanol mewn ryciau a sgarmesi symudol. Un lle fysa’r bêl yn cael ei symud o’r dacl cyn gynted â phosib.
Neges glir
Pe bai’r chwaraewyr sy’n chwarae orau ar hyn o bryd yn dechrau dydd Sadwrn mi fysa Justin Tipuric, Paul James, Richard Hibbard, Dan Bigger ac Ashley Beck siŵr o fod yn y pymtheg cyntaf. Gyda’r hen ffefrynnau Jamie Roberts, Rhys Priestland, Gethin Jenkins, y cyn-gapten Mathew Rees a hyd yn oed y capten presennol Sam Warburton yn colli eu llefydd.
Mae’r neges yn glir, mae Howley yn ymddiried yn nhalent y rheiny sydd wedi dechrau yn y gorffennol ac yn rheiny sy’n dal i chwarae eu rygbi yng Nghymru.
Ymrwymiad Mike Phillips i Bayonne sydd wedi ei atal rhag mynd i Wlad Pŵyl i baratoi efo gweddill y garfan ac yn y pen draw dyna’r rheswm pan nad yw Phillips yn dechrau’r gêm wythnos yma.
Ffydd
Mae’n ddiddorol gweld mai dim ond un o’r ‘sêr’ sydd wedi mynd i chwarae yn Ffrainc sydd yn cychwyn dydd Sadwrn. Bydd hynny’n rhoi penbleth mawr i Jamie Roberts sydd hyd yn hyn heb benderfynu lle mae o am chwarae ei rygbi tymor nesa.
Mae yna bwyntiau hollbwysig i’w dyfarnu gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol dros y mis nesaf, pwyntiau fydd yn dylanwadu’n fawr ar y grŵp bydd Cymru ynddo yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2015. Bydd angen i’r chwaraewyr ad-dalu ffydd Howley trwy ennill. Os ydyn nhw’n methu, efallai bydd rhaid i Howley ail ystyried y ffydd mae o wedi’i ddangos a dewis y chwaraewyr sydd ar ei gorau, yn cynnwys Mike Phillips.