Adam Jones
Mae prop y Gweilch, Aaron Jarvis, wedi canmol ei gyd-chwaraewr Adam Jones am ei helpu i ennill lle yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r Hydref.

Gyda Jones yn cael trafferth gydag anaf i’w ben-glin, mae Jarvis, 26 oed, yn barod i wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y crys coch yn ystod yr wythnosau nesaf.

Wedi i Jarvis symud o Gaerfaddon i’r Gweilch, teimlai mai hyn oedd yn allweddol i’w ddewis wrth iddo ddysgu dan un o’r goreuon yn ei safle Adam Jones.

‘‘Mae Adam wedi bod yn wych i mi, yn barod i siarad ar unrhyw adeg ac wedi bod yn hanfodol i helpu gyda fy natblygiad fel chwaraewr,’’ meddai Jarvis.