Caerlŷr 39–22 Gweilch
Colli fu hanes y Gweilch yn erbyn Caerlŷr yng Ngrŵp 2 Cwpan Heineken brynhawn Sul er iddynt chwarae’n dda am ran helaeth o’r gêm.
Tawelodd y Cymry dorf Ffordd Welford yn yr hanner awr agoriadol cyn i’r tîm cartref daro’n ôl i fod yn gyfartal ar yr egwyl. Cafodd y Gweilch gyfnodau da yn yr ail gyfnod hefyd ond dangosodd Caerlŷr eu cryfder yn y diwedd gyda thri chais yn y deg munud olaf.
Hanner Cyntaf
Cafodd y Gweilch y dechrau perffaith wrth i Ryan Jones groesi wedi dim ond munud. Symudodd yr ymwelwyr trwy’r cymalau’n slic cyn i’r blaenasgellwr profiadol groesi. Trosodd Dan Biggar y cais cyn ychwanegu cic gosb i roi deg pwynt o fantais i’w dîm wedi deuddeg munud.
Yna, daeth Caerlŷr fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner fynd yn ei flaen a doedd fawr o syndod pan giciodd Toby Flood eu tri phwynt cyntaf toc cyn yr hanner awr. Dilynodd eu cais cyntaf yn fuan wedyn pan groesodd y canolwr, Manu Tuilagi, yn dilyn gwaith da gan yr olwyr.
Trosodd Flood y cais i unioni’r sgôr a bu rhaid i’r Gweilch orffen yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i oruchafiaeth Caerlŷr yn y sgrym arwain at gerdyn melyn i brop y Gweilch, Ryan Bevington.
Ail Hanner
Pedwar dyn ar ddeg y Gweilch sgoriodd bwyntiau cyntaf yr ail hanner gyda chic gosb arall gan Biggar, ond roedd y tîm cartref chwe phwynt ar y blaen o fewn deg munud diolch i naw pwynt o droed Flood.
Ond nid oedd y Gweilch yn barod i roi’r ffidl yn y to ac am y tro cyntaf yn y gêm, roedd y penderfyniadau yn mynd o blaid y rhanbarth o Gymru yn y sgrymiau. Manteisiodd Biggar gyda dwy gic gosb i unioni’r sgôr.
Adferodd Flood fantais y Teigrod gyda chic gosb cyn rhyng-gipio pas yng nghanol y cae a rhedeg yr holl ffordd at y llinell gais i ymestyn y fantais honno i ddeg pwynt gyda chymorth y trosiad canlynol.
Fe wnaeth Biggar drosi tri phwynt arall i ddod â’r Gweilch yn ôl o fewn saith ond y tîm cartref a orffennodd y gêm orau gyda dau gais yn y pum munud olaf. Croesodd y mewnwr, Ben Youngs, i ddechrau cyn i Tuilagi sicrhau’r pwynt bonws gyda’i ail gais o’r gêm.
Buddugoliaeth swmpus i’r Saeson yn y diwedd felly gyda’r sgôr terfynol braidd yn anheg ar y Gweilch o bosib. Wedi dweud hynny does dim dwywaith bod Caerlŷr yn haeddu’r fuddugoliaeth ond mae’r Gweilch yn fyw o hyd yng Ngrŵp 2, yn ail y tu ôl i Toulouse wedi dwy gêm.
.
Caerlŷr
Ceisiau: Manu Tuilagi 31’, 79’, Toby Flood 70’, Ben Youngs 75’
Trosiadau: Toby Flood 28’, 71’
Ciciau Cosb: Toby Flood 32’, 43’, 49’, 51’, 66’
Gweilch
Cais: Ryan Jones 1’
Trosiad: Dan Biggar 2’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 12’, 41’, 57’, 61’, 72’
Cerdyn Melyn: Ryan Bevington 34’