Warren Gatland yn trafod gyda Shaun Edwards
Mae hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Neil Jenkins, wedi dweud ei fod yn bwysig dewis y tîm cryfaf posib yn erbyn yr Eidalwyr dydd Sadwrn.

Heddiw fe enwodd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, dîm oedd yn cynnwys un newid yn unig, wrth i James Hook symud o safle’r maswr i’r canol.

Roedd wedi dewis ail dîm i wynebu’r Eidal yn Rhufain yn 2009 a dod o fewn trwch blewyn i golli.

Bryd hynny fe benderfynodd Gatland orffwys chwaraewyr megis Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones a Martyn Williams.

Daeth yr Eidal yn agos cyn i Gymru sicrhau buddugoliaeth 20-15.

“Roedd pethau bron a mynd o chwith dwy flynedd yn ôl. Mae’n gallu bod yn anodd gyda  chwaraewyr yn mynd mewn ac allan o’r tîm,” meddai Neil Jenkins.

“Mae hynny’n wir mewn unrhyw gamp – a does dim gwahaniaeth pwy yw’r gwrthwynebwyr. Mae timau’n ei chael hi’n anodd pan maen nhw wedi gwneud nifer o newidiadau.

“Roedden ni’n lwcus i ennill yn erbyn yr Eidal dwy flynedd ‘nôl, ac rwy’n credu bod rhaid i ni ddewis ein tîm cryfa’ posib eleni.

“Mae’n gêm enfawr i ni, ac ôl ennill dim ond un o’r naw gêm ddiweddaraf fe fyddai colli yn drychinebus.”