Paul Quinn
Mae amddiffynnwr Caerdydd, Paul Quinn, wedi dweud y bydd yr Adar Glas yn gwneud eu gorau glas i gau’r bwlch ar y timau sydd uwch eu pennau yn y Bencampwriaeth.
Fe fydd tîm Dave Jones yn awyddus i daro nôl yn erbyn Caerlŷr heno ar ôl colli 2-1 yn erbyn Nottingham Forest dros y penwythnos.
Disgynnodd Caerdydd i’r pedwerydd safle yn y tabl, chwe phwynt oddi ar QPR ar y brig, ac un y tu ôl i Nottingham Forest ac Abertawe.
“Mae’n rhaid i ni ddechrau ennill yn ystod y gemau nesaf,” meddai Paul Quinn. “Rydyn ni’n ffyddiog ein bod ni’n gallu gwneud hynny.
“Pobl eraill sy’n ceisio dweud ein bod ni mewn argyfwng ar ôl i ni golli un gêm allan o wyth,” meddai’r amddiffynwr.
“Os ydyn ni’n parhau i chwarae fel hyn mae gyda ni gyfle i gyrraedd ein targed.”
Mae’r amddiffynnwr yn disgwyl gêm gyffrous yn erbyn Caerlŷr heno. Dyw tîm Sven Goran Eriksson heb golli’r un gêm yn y Bencampwriaeth yn 2011.
“R’yn ni gwybod beth i’w ddisgwyl gan Gaerlŷr. Maen nhw’n dîm da ac rwy’n credu y bydd hi’n gêm gyffrous fydd yn mynd o un pen i’r cae i’r llall.”