Stadiwm y Mileniwm
Mae Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ymhlith 17 o gaeau sy’n gobeithio cynnal gemau yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015.
Cyn dewis y 12 cae terfynol, bydd angen i’r trefnwyr raddio’r cyfleusterau, gofynion seddau, cefnogaeth y dinasoedd neu’r trefi a lleoliadau daearyddol y caeau.
Bydd 48 o gemau’n cael eu cynnal rhwng Medi 18 a Hydref 31, 2015.
Bydd y grwpiau ar gyfer y gystadleuaeth yn cael eu dewis ar Ragfyr 3 eleni, a bydd y caeau yn cael eu dewis yn derfynol yn ystod y gwanwyn.
Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: “Rydym wrth ein bodd ein bod ni wedi cael ein henwi ar y rhestr hir fer o gaeau sy’n cadarnhau bod Stadiwm y Mileniwm yn cael ei ystyried o ddifrif fel lleoliad posib ar gyfer gemau Cwpan Rygbi’r Byd 2015.
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gynnig fy nymuniadau gorau i’r trefnwyr sy’n gweithio’n galed dros ben er mwyn sicrhau bod y twrnament yn ddigwyddiad gwych o rygbi rhyngwladol.
“Mae URC yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd er mwyn sicrhau y gallwn ni, unwaith eto, groesawu’r byd i Gymru.
Ychwanegodd fod y cyfleuster sy’n galluogi’r to i gael ei gau yn fantais i’r stadiwm dros nifer o gaeau eraill, ac y byddai hynny’n ychwanegu dimensiwn arall i’r darllediadau ar y teledu.
“Mae Cwpan Rygbi’r Byd 2015 wedi’i wreiddio yn Lloegr, sydd yn hollol gywir, ond mae ein lleoliad ni’n ddelfrydol er mwyn sicrhau bod cefnogwyr o Gymru, Lloegr a gweddill y byd yn mwynhau’r twrnament i’r eithaf.”