Craig Bellamy
Mae yna amheuon ynghylch â dyfodol gyrfa ryngwladol Craig Bellamy wedi iddo dynnu allan o garfan Cymru unwaith eto.
Bydd yn methu’r ddwy gêm ragbrofol Cwpan y Byd, gydag anaf i’w benglin.
Mae Craig Davies o Barnsley wedi cael ei enwi yn ei le, ar ôl ennill ei gap diwethaf yn 2008.
Bu dryswch ynghylch dyfodol Bellamy ers cryn amser, gyda rheolwr Cymru, Chris Coleman yn ei annog i gyhoeddi ei fwriad y naill ffordd neu’r llall.
Mae Craig Bellamy wedi sgorio 19 gôl mewn 69 o gemau dros Gymru.
Anafiadau
Roedd Chris Coleman eisoes yn wynebu nifer o anawsterau oherwydd rhestr anafiadau faith.
Mae Jazz Richards, Lewin Nyatanga a James Wilson wedi cael eu henwi yn lle Joel Lynch a Dave Edwards ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban ar Hydref 11.
Mae Wayne Hennessey, Boaz Myhill, Neil Taylor a Jack Collison hefyd yn disgwyl methu’r ddwy gêm oherwydd anafiadau.
Mae disgwyl i Craig Bellamy fethu’r ornest yn erbyn Croatia ar Hydref 14 hefyd.
Ac mae James Collins wedi ei wahardd ar ôl cael ei anfon o’r cae yn y gêm yn erbyn Gwlad Belg.