Munster 33–13 Dreigiau


Siwrnai seithug a gafodd y Dreigiau i Barc Thomond yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn wrth i’r tîm cartref ennill yn gyfforddus gan sgorio pum cais yn y broses.

Roedd gan Munster fantais gyfforddus ar yr egwyl diolch i ddau gais yn y chwarter awr agoriadol ac ymestynnodd y Gwyddelod y fantais honno yn yr ail gyfnod er i Dan Evans sgorio cais cysur i’r Dreigiau.

Sefydlodd Munster fantais gynnar diolch i geisiau’r cefnwr, Ian Keatley, a’r blaenasgellwr, Naill Ronan, ynghyd â dau drosiad Ronan O’Gara.

Ymatebodd y Dreigiau’n syth gyda thri phwynt o droed Tom Prydie ond methodd yr asgellwr ddau gyfle i gau’r bwllch ym mhellach. Penderfynodd y Dreigiau newid eu ciciwr cyn yr egwyl  felly a llwyddodd Lewis Robling gyda’i ymgais gyntaf i gau’r bwlch i wyth pwynt yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf.

Gwnaethpwyd tasg anodd bron yn amhosib i’r Dreigiau yn yr ail gyfnod pan yr anfonwyr y prop, Dan Way, i’r gell gosb. Yn ei absenoldeb fe sgoriodd Munster ddau gais arall.

Sgoriodd y mewnwr, Conor Murray, i ddechrau, ddau funud yn unig ar ôl dod i’r cae fel eilydd yn lle’r bytholwyrdd, Peter Stringer. A bachodd yr asgellwr, Simon Zebo, y pwynt bonws funudau’n ddiweddarach gyda phedwerydd cais ei dîm.

Golygai hyn mai cais cysur yn unig oedd ymdrech cefnwr y Dreigiau, Dan Evans, toc wedi’r awr. A chafodd buddugoliaeth Munster ei choroni yn y munudau olaf pan sgoriodd y blaenasgellwr, Tommy O’Donnell, yn debyg iawn i Murray, eiliadau’n unig ar ôl dod i’r cae fel eilydd.

Mae’r canlyniad yn golygu fod y Dreigiau’n aros yn y degfed safle yn nhabl y Pro12 tra mae Munster yn codi i’r ail safle, bwynt yn unig y tu ôl i’r Scarlets.

.

Munster

Ceisiau: Ian Keatley 2’, Naill Ronan 13’, Conor Murray 53’, Simon Zebo 57’, Tommy O’Donnell 72’

Trosiadau: Ronan O’Gara 3’, 15’, 58’, 74’

Cerdyn Melyn: Donncha O’Callaghan 17’,

Dreigiau

Cais: Dan Evans 62’

Trosiad: Lewis Robling 62’

Ciciau Cosb: Tom Prydie 17’, Lewis Robling 40’

Cerdyn Melyn: Dan Way 49’

Torf : 12,500