Gleision 34–18 Treviso


Mae’r Gleision yn dathlu eu buddugoliaeth gartref gyntaf o’r tymor ar ôl curo Treviso yn y RaboDirect Pro12 ar Barc yr Arfau nos Sadwrn.

Y rhanbarth o Gymru oedd y tîm gorau o dipyn yn yr hanner cyntaf ac er i’r Eidalwyr frwydro’n ôl yn ddewr yn yr ail hanner fe ddaliodd y Gleision eu gafael ar y fuddugoliaeth gan ychwanegu pwynt bonws hefyd gyda symudiad olaf y gêm.

Hanner Cyntaf

Methodd Rhys Patchell gydag ymgais gynnar at y pyst cyn llwyddo gyda’i ail gynnig wedi deg munud i roi’r Gleision ar y blaen.

Ymestynnwyd y fantais honno ddau funud yn ddiweddarach pan groesodd Dan Fish gydag ymdrech unigol wych. Curodd y cefnwr ifanc bedwar amddiffynnwr wrth redeg at y llinell gais o 40 medr. 10-0 yn dilyn trosiad Patchell.

Cafodd Treviso gyfnod gwell wedi hynny ac fe sgoriodd Kris Burton eu pwyntiau cyntaf gyda chic gosb.

Ond y tîm cartref a orffennodd yr hanner gryfaf ac er i gais Alex Cuthbert gael ei atal oherwydd pas ymlaen doedd dim rhaid aros yn hir cyn i Jamie Roberts groesi i’r Gleision. Derbyniodd y canolwr y bêl ar y siswrn gan Patchell cyn hyrddio dau daclwr o’r neilltu a sgorio o dan y pyst. Ychwanegodd Patchell y trosiad, 17-3 ar yr egwyl.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner gyda cherdyn melyn i wythwr yr ymwelwyr, Robert Barbieri, a thri phwynt arall o droed Patchell. Serch hynny, yr Eidalwyr a gafodd y gorau o’r ail hanner.

Bu bron i’r asgellwr, Guilio Toniolatti, sgorio wedi iddo ryng-gipio pas Roberts ond gwnaeth Patchell yn dda i’w rwystro ond mater o amser oedd hi cyn i Treviso groesi.

Yn dilyn cyfnod hir o bwyso fe ddychwelodd Barbieri i’r cae i sgorio cais cyntaf yr ail gyfnod a dim ond deg pwynt oedd ynddi yn dilyn trosiad Burton. Caeodd Burton y bwlch hwnnw i saith yn fuan wedyn ac roedd y Gleision ar y droed ôl.

Ond yn erbyn llif y chwarae fe gasglodd yr eilydd faswr, Jason Tovey, bêl rydd yn ei hanner ei hun cyn rhedeg yr holl ffordd at linell gais Treviso heb i neb ei gyffwrdd.

Doedd Treviso ddim yn barod i roi’r ffidl yn y to serch hynny, a gyda Bradley Davies yn y gell gosb fe sgoriodd Barbieri ei ail gais o’r gêm wrth i’r ymwelwyr gau’r bwlch i naw pwynt gyda naw munud i fynd.

Ond daliodd y pedwar dyn ar ddeg eu gafael ar y fantais a sicrhawyd pwynt bonws hefyd pan hyrddiodd yr eilydd brop, Campese Ma’Afu, dros y gwyngalch yn yr eiliadau olaf.

Llwyddodd Patchell gyda’r trosiad i goroni perfformiad unigol da ganddo ef ac ar y cyfan rhaid dweud fod y Gleision yn haeddu’r fuddugoliaeth.

Ymateb

Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision, Phil Davies:

“Roedden ni’n blês iawn â’r hanner cyntaf ac fe ddechreuon ni’r ail hanner yn dda hefyd ond fe ddaeth Treviso’n ôl yn gryf… Roedd cymeriad y chwaraewyr i ddyfalbarhau a chwarae am wyth deg munud yn amlwg iawn ac rwy’n falch iawn ohonynt.”

Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision i’r ail safle yn nhabl y Pro12, bwynt yn unig y tu ôl i’r Scarlets ar y brig.

.

Gleision

Ceisiau: Dan Fish 12’, Jamie Roberts 31’, Jason Tovey 68’

Trosiadau: Rhys Patchell 13’, 32’, 69’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell  10’, 44

Cerdyn Melyn: Bradley Davies 71’

Treviso

Ceisiau: Robert Barbieri 56’, 72’

Trosiad: Kris Burton 57’

Ciciau Cosb: Kris Burton 17’, 66’

Cerdyn Melyn: Robert Barbieri 43’