Y Seintiau Newydd 3–0 Bangor
Buddugoliaeth gyfforddus oedd hi i’r Seintiau Newydd yn erbyn Bangor o flaen camerâu Sgorio yn Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Alex Darlington y gyntaf yn yr hanner cyntaf cyn i Michael Wilde ddyblu’r fantais yn gynnar yn yr ail hanner. Yna sicrhaodd Chris Seargeant y tri phwynt gyda’r drydedd gôl yn hwyr yn y gêm.
Hanner Cyntaf
Y Seintiau oedd y tîm gorau o’r dechrau’n deg ac roedd y bêl yn rhwyd Bangor wedi dim ond deg munud ond barnwyd fod Wilde yn camsefyll.
Doedd dim rhaid i’r tîm cartref aros yn hir serch hynny wrth i Darlington eu rhoi ar y blaen wedi llai na chwarter awr. Collodd Damien Allen y meddiant a churodd Darlington Dave Morley yn rhy hawdd o lawer cyn codi’r bêl dros Lee Idzi yn y gôl.
Rhwydodd Darlington eto chwarter awr yn ddiweddarach ond barnodd y dyfarnwr cynorthwyol yn ddadleuol braidd ei fod yn camsefyll y tro hwn.
Chris Jones gafodd unig gyfle’r hanner yn y pen arall ond safodd Chris Marriott yn ddewr i atal ei foli.
Ail Hanner
Dechreuodd y Seintiau’r ail gyfnod yr un mor gryf ac roedd y fantais wedi’i dyblu bum munud wedi’r egwyl. Cafwyd cyd chwarae da rhwng Wilde a Chris Jones yn y cwrt cosbi cyn i Wilde guro Idzi gyda’i gôl gyntaf yn ei ail gyfnod gyda’r clwb.
Parhau i bwyso a wnaeth y Seintiau gyda Darlington yn taro’r rhwyd ochr, Aeron Edwards yn crafu’r postyn ac ymdrech Sam Finley’n cael ei chlirio oddi ar y llinell.
Hanner cyfle i Chris Roberts oedd unig ymateb Bangor a llwyddodd Paul Harrison i arbed ei foli yn gyfforddus.
A doedd fawr o syndod pan ddaeth trydedd gôl y Seintiau ddeg munud o’r diwedd. Croesodd Darlington i Wilde wrth y postyn pellaf a pheniodd yntau yn ôl ar draws gôl i alluogi Seargeant i sgorio i rwyd wag.
Buddugoliaeth gyfforddus i’r Seintiau felly a buddugoliaeth sydd yn eu codi dros Fangor a Phrestatyn i frig tabl Uwch Gynghrair Cymru. Mae’r Dinasyddion ar y llaw arall yn disgyn i’r trydydd safle.
Barn y Rheolwr
Roedd rheolwr Bangor, Neville Powell, braidd yn siomedig â pherfformiad ei dîm ar y diwedd ond yn ddigon parod i ganmol y Seintiau hefyd:
“Mae’n ddigon anodd dod yma ar y gorau ac i fod yn deg fe chwaraeon nhw’n dda iawn heddiw ond wnaethon ni ddim dod allan o’r ail gêr. Ond ’da ni ddim rhy siomedig achos does yna ddim llawer o dimau yn mynd i ddod yma a rhoi gêm iddyn nhw.”
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, K. Edwards, Evans, Marriott, A. Edwards, Seargeant, Finley, Darlington, Jones, Wilde
Goliau: Darlington 14’, Wilde 50’, Seargeant 81’
Bangor
Tîm: Idzi, Brownhill, Morley, Johnston, Roberts, Jones (Smyth 66’), Allen, R. Edwards, Simm (Bull 67’), Davies, S. Edwards (Owen 82’)
Cerdyn Melyn: Morley 27’
Torf: 555