Wrecsam 2–2 Dartford
Bu rhaid i Wrecsam fodloni ar bwynt yn unig ar ôl ildio gôl hwyr yn erbyn Dartford ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.
Er i’r ymwelwyr fynd ar y blaen yn gynnar yn y gêm roedd hi’n ymddangos fod goliau Danny Wright ac Andy Bishop cyn yr egwyl yn mynd i fod yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Dreigiau. Ond cipiodd Dartford bwynt gyda chic rydd hwyr Lee Noble.
Roedd Dartford ar y blaen diolch i gamgymeriad yn amddiffyn Wrecsam wedi dim ond pedwar munud. Daeth Lee Burns o hyd i Danny Harris a rhwydodd yntau’n daclus.
Ond roedd y Dreigiau’n gyfartal wedi ychydig dros chwarter awr yn dilyn symudiad da. Cafwyd cyd chwarae taclus rhwng Jay Harris a Declan Walker cyn i Danny Wright guro Marcus Bettinelli yn y gôl i Dartford.
Rhwystrodd Bettinelli Harris rhag rhoi’r tîm cartref ar y blaen yn hwyrach yn yr hanner ond doedd dim y gallai ei wneud i atal Andy Bishop dri munud cyn yr egwyl. Daeth Neil Ashton o hyd i Bishop yn y cwrt cosbi a churodd yntau ddau amddiffynnwr a’r gôl-geidwad i roi ei dîm ar y blaen.
Cafodd Wrecsam ddigon o gyfleoedd i selio’r fuddugoliaeth yn gynnar yn yr ail hanner a bu rhaid iddynt dalu’n ddrud am eu methu wrth i Dartford orffen yn gryf.
Bu rhaid i Ashton glirio ymgais Elliot Bradbrook oddi ar y llinell ugain munud o’r diwedd ond fe ddaeth y gôl yn y diwedd i Noble. Cafodd Harry Crawford ei lorio tu allan i’r cwrt cosbi gan Johnny Hunt a rhwydodd Noble y gic rydd o 25 llath.
Canlyniad siomedig i Wrecsam felly a chanlyniad sy’n peri iddynt ddisgyn o’r ail i’r trydydd safle yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square.
Barn y Rheolwr
Doedd Andy Morrell ddim yn ddyn hapus iawn ar ddiwedd y gêm:
“Roedd ein siâp ni ym mhob man. Fe allai hi fod wedi bod yn 6-6… Mae’n rhaid i ni ail gasglu a gwella. Dwi’n meddwl ein bod ni’n lwcus iawn i gael gêm gyfartal yn y diwedd.”
.
Wrecsam
Tîm: Mayebi, S. Wright (Little 21’), Ashton, Riley, Walker, Cieslewicz (Ormerod 73’), Harris, Keates, Hunt, Wright, Bishop (Morrell 82’)
Goliau: D. Wright 16’, Bishop 42’
Cerdyn Melyn: D. Wright 66’
Dartford
Tîm: Bettinelli, Rose, Champion, Bonner, Arber, Wallis (Collier 78’), Bradbrook, Burns, Hayes (Noble 70’), Erskine (Crawford 61’), Harris
Goliau: Harris 4’, Noble 90’
Cardiau Melyn: Hayes 57’, Wallis 77’, Bradbrook 90’
Torf: 3,772