Casnewydd 2–1 Southport
Brwydrodd Casnewydd yn ôl i gipio’r tri phwynt ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn wedi i Southport fod ar y blaen am ran helaeth o’r gêm.
Sgoriodd yr ymwelwyr o’r smotyn yn yr hanner cyntaf cyn i Aaron O’Connor unioni’r sgôr i’r tîm cartref chwarter awr o’r diwedd. A chipiodd Casnewydd y fuddugoliaeth diolch i gôl wych yr eilydd, Ben Swallow, yn yr eiliadau olaf.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi deunaw munud pan rwydodd Chris Lever o ddeuddeg llath yn dilyn trosedd Andy Sandell ar Shaun Whalley.
Ond roedd Casnewydd yn llawer gwell wedi hynny a gallai’r tîm cartref fod wedi cael o leiaf un gic o’r smotyn eu hunain. Daeth Lee Evans yn agos gydag ergyd o bellter hefyd a bu rhaid i Tony McMillan yn y gôl i Southport wneud arbediad da i atal cic rydd Sandell.
Er gwaethaf pwyso Casnewydd, yr ymwelwyr oedd ar y blaen o hyd ar yr egwyl a bu rhaid aros tan chwarter awr o’r diwedd cyn i’r Cymry daro’n ôl. Peniodd yr eilydd, Jefferson Louis, y bêl i lwybr Aaron O’Connor a chododd yntau hi’n gelfydd dros McMillan i unioni’r sgôr.
A bu bron i’r un cyfuniad ddwyn ffrwyth eto funud yn ddiweddarach ond llwyddodd McMillan i arbed ergyd O’Connor y tro hwn yn dilyn gwaith creu da Louis unwaith yn rhagor.
Ond nid Louis oedd yr unig eilydd i greu argraff wrth i’r ddau arall, Jake Thompson a Swallow, gyfuno’n dda ar gyfer y gôl fuddugol yn y munud olaf. Daeth Thompson o hyd i Swallow a rhwydodd yntau gydag ergyd wych o 25 llath.
Casnewydd yn ei gadael hi’n hwyr felly ond mae’r fuddugoliaeth yn ddigon i’w cadw ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square.
Barn y Rheolwr
Roedd Justin Edinburgh yn falch iawn gyda’i dîm wrth siarad â’r BBC ar ddiwedd y gêm, yn enwedig felly ei eilyddion:
“Er clod i Southport fe ddechreuon nhw’n dda ac fe ddangoson ni fod gennym grŵp da o chwaraewyr yma i oresgyn hynny. Fe wnaeth y safon oddi ar y fainc newid y gêm i ni.”
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Hughes, Yakubu, Pipe, Porter (Louis 60’), Minshull, Sandell, Evans, Flynn (Thomson 68’), O’Connor (Swallow 85’), Crow
Goliau: O’Connor 76’, Swallow 90’
Cerdyn Melyn: Sandell 67’
Southport
Tîm: McMillan, Smith, Lever, Grand, Lynch, Parry, Whalley (Tames 82’), Ledsham, Moogan, Poku (Benjamin 73’), Almond (Bakare 68’)
Gôl: Lever (c.o.s.) 18’
Cardiau Melyn: McMillan 41’, Poku 53’
Torf: 2,802