Crystal Palace 3–2 Caerdydd


Bu rhaid i Gaerdydd dalu’n ddrud am flerwch amddiffynnol ym Mharc Selhurst brynhawn Sadwrn wedi iddynt golli ar ôl bod ddwy gôl ar y blaen ar hanner amser.

Rhoddodd Aron Gunnarsson a Don Cowie fantais iach i’r Adar Gleision ar yr egwyl ond sgoriodd Glenn Murray hatric yn yr ail hanner i gipio’r tri phwynt i Crystal Palace.

Dechreuodd y tîm cartref yn gryf a bu rhaid i David Marshall fod yn effro i atal ymdrech gynnar Kagisho Dikgacoi.

Ond ymatebodd Caerdydd gyda dwy gôl mewn dau funud yn erbyn llif y chwarae. Sgoriodd Gunnarsson y gyntaf pan wyrodd ei ergyd heibio i Julian Speroni yn y gôl i Crystal Palace. Ac roedd hi’n ddwy yn fuan wedyn pan lwyddodd Cowie i droi ac ergydio yn y cwrt cosbi.

Cafodd Craig Bellamy gyfle i ychwanegu trydedd hanner ffordd trwy’r hanner ond aeth ei foli dros y trawst wrth i Gaerdydd fodloni ar ddwy gôl o fantais ar yr egwyl.

A dylai dwy fod wedi bod yn ddigon ond roedd amddiffyn y Cymry ar chwâl yn yr ail hanner.

Daeth y gyntaf o dair Murray o’r smotyn wedi Gunnarsson lawio cic rydd Andre Moritz yn y cwrt cosbi.

Cafodd Cowie gyfle da i adfer y ddwy gôl o fantais toc wedi’r awr ond saethodd dros y trawst a Crystal Palace yn hytrach a sgoriodd bedwaredd gôl y gêm funud yn ddiweddarach. Gwyrodd ergyd Moitz oddi ar gefn Mark Hudson i lwybr Murray a rhwydodd yntau pan ddylai Marshall fod wedi gwneud yn well.

A dim ond un tîm oedd yn mynd i’w hennill hi wedyn a doedd fawr o syndod pan ildiodd Heidur Helguson ail gic o’r smotyn y prynhawn am drosedd ar Jonathan Parr ugain munud o’r diwedd. Sgoriodd Murray ei drydedd ef a thrydedd ei dîm i sicrhau tri phwynt i Crystal Palace.

Mae Caerdydd yn disgyn i’r chweched safle yn nhabl y Bencampwriaeth yn dilyn y canlyniad siomedig, a hynny wedi iddi ymddangos ar hanner amser y byddant yn codi i’r brig.

.

Crystal Palace

Tîm: Speroni, Delaney, Ramage (Ward 31’), Parr, Bolasie (Moxey 86’), Dikgacoi, Blake, Jedinak, Moritz (Williams 77’), Zaha, Murray

Goliau: Murray (c.o.s.) 52’, 62’, (c.o.s.) 72’

Cerdyn Melyn: Zaha 45’

Caerdydd

Tîm: Marshall, McNaughton, Taylor, Hudson, Connolly, Whittingham, Cowie (Noone 75’), Gunnarsson, Smith (Kim Bo-Kyung), Helguson, Bellamy (Mason 82’)

Goliau: Gunnarsson 13’, Cowie 15’

Cardiau Melyn: McNaughton 35’, Gunnarsson 66’, Kim 90’

Torf: 12,757