Abertawe 0–3 Everton


Collodd Abertawe am yr ail gêm Uwch Gynghrair yn olynol yn erbyn Everton yn Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn.

Roedd yr ymwelwyr o Lannau Merswy ddwy gôl ar y blaen erbyn hanner amser diolch i Victor Anichebe a Kevin Mirallas.

A diflannodd holl obeithion Abertawe o daro’n ôl pan gafodd Nathan Dyer ei anfon oddi ar y cae yn gynnar yn yr ail hanner. Yna, ychwanegodd Marouane Fellaini gôl hwyr i rwbio’r halen yn y briw wrth i Everton ennill yn haeddiannol

Hanner Cyntaf

Daeth Anichebe a Mirallas yn agos i’r ymwelwyr yn y munudau cyntaf cyn i Anichebe agor y sgorio hanner ffordd trwy’r hanner gyda gôl ddadleuol. Cafodd Fellaini rwydd hynt i reoli’r bêl ar ei fron yn y cwrt cosbi cyn ei chwarae i gyfeiriad Anichebe gyda’i law, ond welodd y dyfarnwr ddim mo’r drosedd a rhwydodd y blaenwr.

Gwastraffodd Miguel Michu gyfle da i unioni a daeth Sung-Yeung Ki yn agos i’r Elyrch hefyd gydag ymdrech dda cyn i Mirallas ddyblu mantais yr ymwelwyr ddau funud cyn yr egwyl. Gwrthymosododd Steven Pienaar yn chwim i lawr y dde cyn dod o hyd i Mirallas yn y canol a pheniodd yntau i rwyd wag wedi i’w ergyd wreiddiol daro’r trawst.

Cafodd Angel Rangel ddau gyfle gwych i haneru’r fantais yn eiliadau olaf yr hanner ond arbedodd Tim Howard y cynnig cyntaf cyn i’r cefnwr wneud smonach llwyr o’r ail.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn fywiog a bu rhaid i Howard wneud dau arbediad da i atal Michu a Ki. Yn y pen arall fe darodd Miralles y trawst cyn i Michel Vorm atal Anichebe.

Ond roedd gobeithion Abertawe o daro’n ôl drosodd toc cyn yr awr pan gafodd yr eilydd, Nathan Dyer, ei anfon o’r cae ar ôl derbyn ei ail gerdyn melyn mewn dau funud.

Cafodd Fellaini ac Anichebe ddau gyfle da yr un i ychwanegu trydedd cyn i Fellaini wneud hynny wyth munud o’r diwedd. Daeth cic rydd Leighton Baines o hyd i’r cawr o Wlad Belg yn y canol a gwyrodd ei beniad oddi ar Ashley Williams i gefn y rhwyd.

Tair gôl a thri phwynt i Everton felly a dim hyd yn oed gôl gysur i’r tîm cartref wrth i gic rydd hwyr Jonathan De Guzman daro’r trawst.

Ymateb y Rheolwr

Michael Laudrup yn siomedig:

“Rhaid i mi ddweud fod Everton yn haeddu’r fuddugoliaeth, roedden nhw’n well na ni. Roedden ni’n siomedig iawn yn y 30 munud cyntaf ac fe ildion ni lawer o giciau rhydd… Fe wnaethom ymateb yn dda ar ôl mynd ddwy gôl i lawr ond roedd yr hanner awr cyntaf yn siomedig iawn.”

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Tate (Britton 55’), Williams, Rangel, Davies, Michu, Pablo (Dyer 46’), Routledge, De Guzman, Ki Sung-Yeung, Graham (Shechter 71’)

Melyn: Williams 12’, Ki Sung-Yeung 31’, Dyer 55’, Rangel 57’, Michu 65’

Coch: Dyer 58’

Everton

Tîm: Howard, Baines, Heitinga, Jagielka, Neville, Coleman, Osman, Pienaar (Gueye 85’), Fellaini (Oviedo85’), Mirallas (Naismith 71’), Anichebe

Goliau: Anichebe 22’, Mirallas 43’, Fellaini 82’

Melyn: Osman 71’

Torf: 20,464