Scarlets 16–23 Gweilch


Roedd rhaid i’r Gweilch aros tan y deg munud olaf i ennill eu gêm gyntaf o’r tymor yn y RaboDirect Pro12 ar Barc y Scarlets nos Wener.

Yn dilyn 70 munud hynod agos fe sgoriodd Ryan Jones a Hanno Dirksen geisiau hwyr i sicrhau buddugoliaeth i’r Gweilch. Sgoriodd George North i’r tîm cartref gyda symudiad olaf y gêm hefyd ond dim ond digon i gipio pwynt bonws oedd y cais hwnnw.

Hanner Cyntaf

Doedd dim llawer yn gwahanu’r ddau dîm mewn hanner cyntaf tanllyd ond cafodd Dan Biggar y gorau ar Rhys Priestland yn y frwydr gicio.

Rhoddodd Priestland y Scarlets ar y blaen yn dilyn tacl uchel Joe Bearman ar George Earle cyn i Biggar unioni’r sgôr i’r ymwelwyr.

Adferodd Priestland y tri phwynt o fantais yn fuan wedyn ond roedd Duncan Jones yn cael y gorau ar Deacon Manu yn y sgrym ac o ganlyniad fe giciodd Biggar ddwy gic gosb arall i’r ymwelwyr cyn yr egwyl.

Y Scarlets a ddaeth agosaf at sgorio cais yn y deugain munud agoriadol ond barnodd y dyfarnwr fideo fod Andy Fenby wedi taro’r bêl ymlaen wrth geisio tirio. Roedd Derek Bevan yn iawn yn hynny o beth ond methodd â nodi mai tacl anghyfreithlon George Stowers a achosodd i’r asgellwr ollwng y bêl.

Ail Hanner

Tri phwynt o fantais i’r Gweilch ar yr egwyl felly a bu bron iddynt ledaenu eu mantais yn gynnar yn yr ail hanner pan groesodd Dirksen, ond barnwyd fod y bas iddo gan Richard Fussell ymlaen.

Y Scarlets yn hytrach a sgoriodd bwyntiau cyntaf yr hanner diolch i droed Priestland ond methodd y maswr eto gyda chyfle i roi ei dîm ar y blaen yn fuan wedyn.

Y Gweilch oedd y tîm cryfaf yn y sgrym o hyd a phwysleiswyd hynny toc wedi’r awr pan anfonwyd eilydd brop y Scarlets, Samson Lee, i’r gell gosb am ddymchwel sgrym. Ac er na fanteisiodd y Gweilch yn erbyn y pedwar dyn ar ddeg, hwy orffennodd y gêm gryfaf.

Sgoriodd Ryan Jones y cais agoriadol wyth munud o’r diwedd ar ei ymddangosiad cyntaf o’r tymor. Sicrhaodd y Gweilch bêl lân mewn llinell ymosodol a chroesodd Jones yn dilyn gwthiad grymus.

Ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ddau funud yn ddiweddarach pan blymiodd Dirksen at y gwyngalch yn y gornel yn dilyn pas well gan Fussell y tro hwn.

Ychwanegodd Biggar bedwar pwynt gyda dau drosiad gwych o’r ystlys i roi 14 pwynt o fantais i’r ymwelwyr gyda dim ond pum munud ar ôl.

Ac er i North sicrhau pwynt bonws i’r Scarlets yn yr eiliadau olaf, y Gweilch oedd yr enillwyr haeddianol.

Ymateb

Hwn oedd ymddangosiad cyntaf Ryan Jones o’r tymor ac roedd wrth ei fodd ar y diwedd:

“Ro’n i’n edrych ymlaen at ddod yn ôl ar gyfer y gêm hon… Mae’n dda cael dod i stadiwm Gymreig yn llawn o gefnogwyr rygbi angerddol ar gyfer gêm ddarbi wych. A’r rhai gorau yw’r rhai yr ydych yn eu hennill!”

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch dri lle i’r wythfed safle yn nhabl y Pro12 tra mae’r Scarlets yn aros ar y brig, dros nos o leiaf.

Scarlets

Cais: George North 80’

Trosiad: Rhys Priestland 80’

Ciciau Cosb: Rhys Priestland 4’, 13’, 48’

Cerdyn Melyn: Samson Lee 61’

Gweilch

Ceisiau: Ryan Jones 72’, Hanno Dirksen 75’

Trosiadau: Dan Biggar 72’, 76’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 7’, 18’, 34’

Cerdyn Melyn: Jonathan Thomas 79’

Torf: 14,111