Jamie Roberts
Yfory bydd y Gleision yn croesawu tîm o’r Eidal i Barc yr Arfau.

Yn eistedd yn y pumed safle, mae’r Gleision wedi cael dechreuad eithaf dymunol i’w hymgyrch yng nghynghrair RaboDirect Pro 12.

Mae disgwyl i Jamie Roberts chwarae am y tro cyntaf y tymor hwn wrth iddo ddychwelyd yn ôl o lawdriniaeth i’w ben-glin.

Fe ddaeth y canolwr ar y cae fel eilydd yn ystod buddugoliaeth y Gleision dros y Dreigiau’r penwythnos diwethaf.

‘‘Mae’n wych i gael chwaraewyr fel Jamie yn ôl,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision.

Nid yw Davies yn cymryd dim yn ganiataol yn erbyn Trevsio sydd eisioes wedi curo’r Gweilch a dod yn agos iawn i guro Pencampwyr Ewrop, Leinster.

‘‘Maen nhw’n dîm da ac yn drefnus dros ben.  Rydym am geisio chwarae’r gêm â thempo uchel, ac yn disgwyl i’r awyrgylch fod yn wych ym Mharc yr Arfau.”