Tasg anodd sy’n wynebu’r Dreigiau yfory wrth iddyn nhw deithio dros y môr i herio Munster yn Stadiwm Parc Thomond.

Wedi colli yn erbyn Leinster a’r Gleision yn eu dwy gêm ddiwethaf, mae’r Dreigiau mewn perygl o barhau ar rediad gwael.

Ers 2004, dim ond unwaith mae’r Dreigiau wedi ennill ar dir Iwerddon, a hynny yn erbyn Ulster yn Ravenhill (16-14) yn 2008.

Mi fydd Andy Tuilagi a Steve Jones yn cael eu cynnwys yng ngharfan y Dreigiau.

Ond ni fydd yr asgellwr Tonderai Chavhanga, y clo Robert Sidoli na’r mewnwyr Wayne Evans a Joe Bedford yn teithio oherwydd anafiadau.

Tîm y Dreigiau:

Blaenwyr- Jevon Groves, Dan Lydiate, Tom Brown, Toby Faletau, Lewis Evans, Hywel Stoddart, Nick Cudd, Ian Nimmo, Adam Jones, Dan Way, Tim Ryan, Aaron Coundley, Phil Price, Steve Jones, Sam Parry.

Olwyr – Daniel Evans, Tom Prydie, Pat Leach, Will Harries, Ashley Smith, Adam Hughes, Andy Tuilagi, Lewis Robling, Steffan Jones, Jonathan Evans, Liam Davies.