Yfory mi fydd Simon Easterby a’i Sgarlets yn herio Connacht oddi cartref yn y Sportsground.
Ar hyn o bryd, mae’r Scarlets yn eistedd ar frig y tabl RaboDirect Pro 12 ac wedi sicrau dwy fuddugoliaeth o’r bron gan sgorio 10 cais hyd yn hyn wrth guro Leinster (45-20) a Glasgow (18-13).
‘‘Roeddwn yn hynod o falch dros y chwaraewyr am sicrhau’r buddugoliaethau a gweithio’n galed,’’ meddai Simon Easterby.
Mae’r Scarlets wedi arwyddo saith o chwaraewyr newydd y tymor hwn, gan gynnwys y gŵr o Dde Affrica, Johan Synam sydd wedi ychwanegu cryfder a phŵer i’r sgrym.
Gyda Rhys Priestland yn rheoli’r bêl yn dda, maen nhw wedi datblygu i fod yn dîm gyda photensial aruthrol.
Heyfd mae Morgan Stoddart yn agos i ddychwelyd yn ôl i’r cae rygbi ar ôl iddo dorri ei goes fis Awst diwethaf (2011) yn erbyn Lloegr mewn gêm ‘gyfeillgar’ cyn cychwyn Cwpan y Byd